Ailddechreuodd gwasanaeth y Cardi Bach (552) yng Ngheredigion ddydd Iau, 20 Gorffennaf 2023.

Mae'r gwasanaeth yn gweithredu ar hyd rhan ysblennydd o arfordir Ceredigion sy'n gwasanaethu aneddiadau rhwng Ceinewydd ac Aberteifi.

Mae amserlen wedi’i chyflwyno i’r Comisiynydd Traffig ac unwaith y bydd hon wedi’i chofrestru, rhagwelir y bydd yn digwydd ar 01 Awst 2023, bydd yr amserlen hon yn gweithredu. Hyd nes y bydd y gwasanaeth wedi'i gofrestru, bydd y gwasanaeth yn gweithredu yn unol â'r amserlen ar wefan Traveline gydag amserlen dydd Gwener a dydd Sadwrn hefyd yn gweithredu ar ddydd Sul, dydd Mawrth a dydd Mercher. Gellir dod o hyd i’r amserlenni yma:

Y Cynghorydd Keith Henson yw’r Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon. Dywedodd: “Mae hwn yn wasanaeth pwysig i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Yn ogystal â darparu mynediad i ran wych Ceredigion o Lwybr Arfordir Cymru, mae'r daith yn atyniad ynddo'i hun. Yn ogystal â theithiau ar hyd yr arfordir ei hun, mae'r Cardi Bach yn darparu cyfleoedd i deithio ymhellach gyda chysylltiadau â gwasanaethau eraill sy'n cynnwys gwasanaethau TrawsCymru. Rwy'n mawr obeithio y bydd pobl yn defnyddio'r gwasanaeth hwn gan y bydd hynny yn cefnogi ymdrechion i’w gadw yn y tymor hwy."

Ariennir Gwasanaeth Cardi Bach gan Lywodraeth Cymru.

21/07/2023