The popularity of hot tubs and spa-pools has increased significantly over recent years. If you rent out a property, whether through an agent, “Air BnB” or directly then you are classed as running a commercial or business activity.

Mae tybiau twym a phyllau sba yn boblogaidd dros ben ac mae eu defnydd wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Os ydych yn rhentu eiddo boed trwy asiant, “Air BnB” neu’n uniongyrchol yna ystyrir eich bod chi’n rhedeg gweithgarwch masnachol neu fusnes.

Os oes gan eich llety dwba twym neu sba, bydd dyletswydd gyfreithiol arnoch o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 i sicrhau eich bod wedi asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â pheryglon cemegol a biolegol gan gynnwys (Clefyd y Llengfilwyr, Bacteria Pseudomonas aeruginosa a Cryptosporidium). Mae’n rhaid i chi hefyd gyflwyno mesurau rheoli priodol.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cefnogi’r rheiny sy’n gweithredu tybiau twym a phyllau sba drwy rannu canllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i reoli’r risgiau iechyd a diogelwch sy’n gysylltiedig â thybiau twym a phyllau sba. Mae’r canllawiau ar gael ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Dros y 12 mis diwethaf bu cynnydd yn nifer yr achosion o glefyd y llengfilwyr a gofnodwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac roedd rhai achosion yn gysylltiedig â thybiau twym a phyllau sba.

Dylai fod gan y lleoliadau hyn asesiad risg ar waith, â’r risgiau wedi’u nodi a mesurau rheoli wedi’u rhoi ar waith. Bydd y mesurau rheoli hyn yn cynnwys trin y dŵr yn gemegol, glanhau a samplu dŵr.

Mae’n bosib y gwneir ymweliad samplo dros fisoedd yr haf â rhai busnesau masnachol sydd â thwba twym neu bwll sba fel rhan o archwiliadau rheolaidd i asesu’r eiddo yn unol â’r canllawiau cyfredol.

Dywedodd Matthew Vaux, Aelod Cabinet ar gyfer Diogelu’r Cyhoedd: "Mae'n bwysig iawn i berchnogion busnes sydd ag eiddo rhentu gyda dwba twym neu sba i ddilyn y canllawiau a ddarperir gan y Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'u dyletswyddau cyfreithiol o dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch. Os hoffech gael arweiniad neu ragor o wybodaeth, rwy'n eich annog i gysylltu â'r tîm Diogelu’r Cyhoedd."

Os oes gennych eiddo rhent gyda thwba twym/pwll sba a hoffech ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â’r tîm Diogelu’r Cyhoedd ar publicprotection@ceredigion.gov.uk

 

19/08/2022