Mae murlun newydd sbon o un o sêr tîm pêl-droed Cymru wedi ymddangos ym mhentref Bow Street a hynny fel rhan o brosiect gan Cered a’r Mentrau Iaith i ddathlu Cymru yn cyrraedd Cwpan y Byd FIFA am y tro cyntaf ers 1958.

Yn ddiweddar, mae murluniau wedi ymddangos ar draws y wlad o rai o chwaraewyr Cymru yn y lleoliadau hynny ble cawson nhw eu magu e.e. Joe Allen yn Arberth, Gareth Bale yng Nghaerdydd, Joe Rodon yn Abertawe a Harry Wilson yng Nghorwen. Bellach gellir cyhoeddi mai’r amddifynnwr Rhys Norrington-Davies yw testun y murlun diweddaraf yn y gyfres a hynny yng Nghlwb Pêl-droed Bow Street lle chwaraeodd Rhys pan yn ifanc.

Dywedodd Wyn Lewis, Cadeirydd CPD Bow Street: “Mae’r clwb mor falch o lwyddiant Rhys dros y blynyddoedd diwethaf. Dechreuodd Rhys ei yrfa bêl-droed yma ar Cae Piod ac mae’n rhoi pleser mawr i ni cael murlun ohono wrth y cae. Wrth gwrs, mae ei anaf diweddar yn golygu na fydd Rhys yn chwarae yng Nghwpan y Byd ond wedi siarad gyda’i deulu a gyda Rhys ei hun mae pawb wedi bod yn frwd dros barhau gyda’r murlun o gofio y buodd yn rhan bwysig o’r ymgyrch i gyrraedd Qatar.”

Dywedodd Steff Rees, Arweinydd Tîm Cered: Menter Iaith Ceredigion: “Roedd yn wych cael cydweithio gyda CPD Bow Street, Mentrau Iaith a’r artistiaid graffiti Tegeirin a Lloyd The Graffiti ar y prosiect yma i ddathlu’r Cardi hynny sydd wedi helpu sicrhau lle Cymru ar lwyfan chwaraeon mwya’r blaned. Gobeithio y bydd hwn yn gallu ysbrydoli’r chwaraewyr ifanc yn y timoedd ieuenctid fod modd iddyn nhw hefyd fynd ymlaen i chwarae’n broffesiynol a chynrychioli Cymru.”

Mae rhwydwaith y Mentrau Iaith yn un o’r partneriaid allweddol o Bartneriaeth Cwpan y Byd Llywodraeth Cymru ac yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau cyffrous i ddathlu tîm pêl-droed Cymru a’u llwyddiant o gyrraedd Cwpan y Byd Pêl-droed yn Qatar eleni.

Yn lleol, fe fydd Cered yn cydweithio â Theatr Felinfach i gynnal nifer o weithgareddau sy’n plethu chwaraeon a diwylliant a hynny oll trwy gyfrwng y Gymraeg. Dros yr wythnosau nesaf mi fydd gweithdai ffotograffiaeth, nosweithiau codi canu, noson o farddoniaeth a darllediadau byw o sioe radio Cered sef ‘Cefn y Rhwyd’ yn digwydd ar draws y sir. I gael mwy o fanylion am y gweithgareddau yma dilynwch Cered ar Facebook, Twitter ac Instagram neu e-bostiwch cered@ceredigion.gov.uk.

Dydd Llun, 21 Dachwedd ar ddiwrnod gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd, bydd Cardi Iaith yn lansio cân a fydd ar gael ar ffurf trac cerddoriaeth yn unig ac mi fydd ffilm i gefnogi Cymru yn y gystadleuaeth. Cymerodd ysgolion cynradd Ceredigion ran mewn gweithdy i greu cerdd gyda'r Prifardd Ceri Wyn Jones a gafodd ei throi mewn i gân.

Mae holl ysgolion uwchradd y sir hefyd wedi bod yn rhan o greu gerdd gydag Aneirin Karadog ac mae’r gerdd honno bellach wedi gael ei droi i boster gan yr arlunydd Lizzie Spikes.

Mae’r Cyngor hefyd wedi paratoi pecyn adnoddau addysgol sy’n datblygu amrywiaeth o sgiliau drwy gyd-destun Cwpan y Byd, ac mae wedi’i rannu gyda phob athro yn y sir.

Mae yna gyffro mawr yn ysgolion y sir - maent yn barod i gefnogi Cymru! Mae’r holl waith yn sicr yn gwneud y Gymraeg yn gyffrous a pherthnasol i’n plant. Pe bai modd troi ymdrech yn goliau, bydd Cymru’n siwr o guro Cwpan y Byd! I gael y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau Cardi Iaith, dilynwch @CardiIaith ar Facebook.

14/11/2022