Mae Meithrinfa yng Ngheredigion, sef Meithrinfa Plas Gogerddan, wedi ennill Gwobr Meithrinfa’r Flwyddyn yng Nghymru yng Ngwobrau Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2022.

Sefydlwyd Gofal Plant Gogerddan Childcare yn 2012 gan y Rheolwr Gyfarwyddwr, Emma Healy, ac mae’r feithrinfa wedi’i lleoli mewn amgylchedd naturiol gwych sydd wedi’i amgylchynu gan fywyd gwledig.

Mae Meithrinfa Plas Gogerddan yn un o nifer o feithrinfeydd yng Ngheredigion sy’n darparu addysg y Cyfnod Sylfaen a ariennir gan Gyngor Sir Ceredigion yn eu sesiynau Cylch Meithrin.

Mae’r Feithrinfa wedi’i chofrestru gyda chynllun Cynnig Gofal Plant Cymru Llywodraeth Cymru i gefnogi rhieni/gofalwyr sy’n gweithio sydd â phlant 3 i 4 oed i hawlio arian i helpu i dalu am gostau gofal plant. Mae’r Feithrinfa hefyd yn cynnig y Cynllun Dechrau’n Deg i gefnogi teuluoedd sy’n gymwys ar gyfer y cynllun gyda’u plant 2 oed.

Dywedodd Emma Healy, Rheolwr Gyfarwyddwr: “Ein staff yw ein hadnodd gorau, rydym yn gwrando ar eu syniadau ac yn gweithio i’w cefnogi yn eu hymarfer, gan ganolbwyntio ar eu sgiliau a’u diddordebau. Maen nhw’n frwdfrydig iawn yn eu rolau ac yn mynd y tu hwnt i ofynion eu rolau’n rheolaidd.”

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gofynnwyd i ni rannu ein harferion gyda lleoliadau eraill o Geredigion, sydd wir yn fraint. Mae derbyn y wobr hon wedi rhoi hwb mawr i’n hyder ac mae’r gydnabyddiaeth genedlaethol hon yn gymaint o gamp i fusnes bach yn Aberystwyth! Hoffem ddiolch i’n holl deuluoedd am eu holl bleidleisiau a’u cefnogaeth, mae hyn yn golygu cymaint i ni yng Ngofal Plant Gogerddan Childcare.”

Wyn Thomas yw’r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Dywedodd: “Mae cael eich cydnabod fel y feithrinfa orau yng Nghymru yn gyflawniad gwych, da iawn i bawb yng Ngofal Plant Gogerddan Childcare.”

01/07/2022