Yn dilyn arolwg diweddar Estyn yn Ysgol Penglais, mae'r ysgol wrth ei bodd gyda chanfyddiadau'r adroddiad.

Nodwyd gan yr arolygwyr bod ‘Arweinyddiaeth effeithiol a diwylliant o ymddiriedaeth wedi cryfhau’r addysgu a phrofiadau dysgu yn yr ysgol dros gyfnod.’

Roedd eu canfyddiadau'n cadarnhau bod ‘Gan y rhan fwyaf o ddisgyblion agweddau aeddfed tuag at eu haddysg ac yn gweithio gyda staff i sicrhau bod yr ysgol yn amgylchedd dysgu tawel a phleserus’ a bod ‘gan yr ysgol ystod eang o strategaethau i gefnogi lles pob un o’r disgyblion, gan gynnwys y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a’r rhai sydd angen cymorth emosiynol.’

Mae’r adroddiad yn datgan bod y ‘Pennaeth yn darparu arweinyddiaeth gadarn ac yn cael cymorth da gan arweinwyr ar bob lefel. Gyda’i gilydd, maent yn darparu cyfeiriad strategol clir ac yn gwybod yn dda beth yw cryfderau’r ysgol a’r meysydd i’w gwella. Maent yn gwella ansawdd yn llwyddiannus.’

Meddai Mair Hughes, Pennaeth Ysgol Penglais: "Rydw i wrth fy modd bod arolygwyr Estyn wedi gweld yr hyn rydyn ni'n ei weld bob dydd yn yr ysgol: addysgu a dysgu o ansawdd uchel; ysgol sy'n gofalu am ei myfyrwyr; a myfyrwyr sydd ag agweddau aeddfed sydd, drwy berthynas gadarnhaol â staff, yn helpu i greu amgylchedd dysgu tawel a dymunol. Rydym yn awr yn edrych ymlaen at ddatblygu hyd yn oed ymhellach fel ysgol, gan fynd i'r afael â meysydd yr argymhellion ac adeiladu ar ein cryfderau."

Mae’r adroddiad yn cadarnhau bod ‘Gan yr ysgol weledigaeth glir ar gyfer datblygu ei chwricwlwm sydd wedi’i seilio ar ganfyddiadau ymchwil ar arfer addysg effeithiol. Mae dysgu proffesiynol yn gryfder, ac mae datblygu’r addysgu yn ganolog i’r datblygiadau cwricwlaidd hyn. Mae athrawon yn cymryd rhan mewn ystod eang o fentrau ysgol gyfan a mentrau unigol i wella’u harfer.’

Dywedodd yr Athro Jon Moorby, Cadeirydd y Llywodraethwyr: "Rwy'n falch iawn bod arolygwyr Estyn yn cydnabod y gwelliannau sylweddol a ddigwyddodd yn Ysgol Penglais dros y blynyddoedd diwethaf. Rwy'n falch iawn o'r ysgol gyfan - staff, myfyrwyr, a chymuned amlddiwylliannol ehangach rhieni/gofalwyr a busnesau lleol yn Aberystwyth - sydd wedi cyfrannu at ddatblygu amgylchedd dysgu gwych i'n cenhedlaeth i'r dyfodol, ac yn parhau i wneud hyn bob dydd. Rwy'n arbennig o falch bod Estyn wedi nodi enghreifftiau blaenllaw o arfer da fydd yn cael ei rannu ag ysgolion eraill yng Nghymru. Roedd y rhain ym meysydd datblygiad proffesiynol staff yr ysgol - mae'r ysgol yn disgwyl ac yn darparu'r safonau uchaf o addysgu a dysgu i bawb, disgyblion a staff fel ei gilydd - ac wrth gyflwyno'r Cwricwlwm newydd i Gymru."

Caiff Estyn ei arwain gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Mae’n arolygu ansawdd a safonau ysgolion ledled Cymru.

Gellir gweld holl adroddiadau Estyn ar wefan Estyn.

05/09/2022