Mae gweithiwr cymdeithasol o Geredigion wedi cael ei gydnabod am Hyrwyddo Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc yn ystod Gwobrau Gofal Cymru 2022 a gynhaliwyd yng Nghaerdydd.

Gweithiwr allweddol ac uwch-ymarferydd yn rhan o dîm anableddau plant Cyngor Sir Ceredigion yw Richard Bellingham, sy’n 47 oed o Lanon.

Mae’n gofalu am blant o dan 18 oed, ac fe’i enwebwyd am y wobr gan riant un o’r plant y mae’n gofalu amdanynt.

Mae’r gwasanaeth yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc anabl i hybu eu lles, cynllunio ar y cyd â rhieni a gofalwyr i gefnogi datblygiad o ran annibyniaeth a chydnerthedd, ynghyd â chynnig cymorth a chyfeiriad yn seiliedig ar anghenion pob plentyn.

Wrth dderbyn y wobr arian ar gyfer Hyrwyddo Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc, dywedodd Richard Bellingham: “Roedd hi’n sypreis hyfryd i glywed fy mod wedi cael fy enwebu am wobr gan un o’r teuluoedd rwyf wedi bod yn gweithio gyda nhw dros y blynyddoedd. Mae’n braf iawn derbyn y fath barch. Rwy’n caru fy swydd ac yn cael cymaint allan ohoni.”

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet ar gyfer Porth Cynnal – Gwasanaethau Arbenigol Gydol Oed: “Llongyfarchiadau mawr i Richard ar dderbyn y wobr fawreddog hon. Rydym yn ddiolchgar am waith caled ac ymroddiad gweithwyr cymdeithasol fel Richard, sydd bob amser yn mynd yr ail filltir i ofalu am eraill, ac yn enwedig wrth addasu yn ystod cyfnodau heriol. Llongyfarchiadau Richard.”

Mae Gwobrau Gofal Cymru yn ddathliad o ragoriaeth ar draws sector gofal Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am y gwobrau ac enillwyr 2022 ar gael yma: Gwobrau Gofal Cymru 

 

18/11/2022