Bydd Pwll Nofio Aberaeron yn cau o 09 Ionawr 2023 am 6-8 wythnos er mwyn gwneud gwaith adnewyddu.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi sicrhau Grant Cyfalaf Chwaraeon Cymru gwerth £200,000 gan Lywodraeth Cymru i ariannu'r gwaith adnewyddu ym Mhwll Nofio Aberaeron.

Bydd y Pwll Nofio yn cael ei uwchraddio gydag offer a goleuadau newydd a fydd yn lleihau costau ynni ac yn cefnogi ei gynaliadwyedd i'r dyfodol.

Dywedodd John Gwynne-Hughes, Cadeirydd Pwyllgor Pwll Nofio Aberaeron: "Mae pwyllgor y pwll nofio yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi derbyn grant gan Chwaraeon Cymru i wneud gwaith sydd fawr angen i'r pwll er mwyn ei alluogi i barhau i redeg. Hoffai'r pwyllgor ddiolch i Gyngor Sir Ceredigion am eu cymorth a'u cefnogaeth, rheolwr y pwll Martine a holl staff ymroddedig y pwll.

"Mae pwll nofio Aberaeron yn cael ei redeg gan y pwyllgor er budd y gymuned. Mae'n adnodd hanfodol a bydd y grant hwn yn sicrhau ein dyfodol. Byddwn yn parhau â'n gweithgareddau codi arian er mwyn gwella'r pwll ymhellach."

Ychwanegodd y Cynghorydd Catrin M.S Davies, Aelod Cabinet ar faterion Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: "Mae ein cyfleusterau hamdden cymunedol yn ganolog i’n darpariaeth oherwydd eu bod yn cynnig cyfleoedd i'n trigolion fod yn egnïol gorfforol. Trwy gydweithio, mae'r Cyngor a Phwll Nofio Aberaeron wedi sicrhau buddsoddiad sylweddol fydd yn galluogi'r pwll i barhau i gyfrannu at iechyd a lles trigolion y sir."

I gael rhagor o wybodaeth am grantiau a chyllid Chwaraeon Cymru ewch i: www.chwaraeon.cymru/grantiau-a-chyllid/

15/12/2022