Erbyn mis Medi 2032, dyhead Cyngor Sir Ceredigion yw y bydd pob disgybl yn ysgolion yr awdurdod yn derbyn addysg drochi cyfrwng Cymraeg hyd nes y bydd yn saith oed. Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-32 yn amlinellu’r amcanion allweddol i gyflawni hyn.

Yn ystod cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd yn rhithiol ar 22 Chwefror 2022, cymeradwyodd Aelodau’r Cabinet gynnwys Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-32.

Mae’r cynllun yn cydymffurfio â Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019. Mae’r rheoliadau hynny yn nodi y dylid cynllunio’n strategol ar gyfer meysydd allweddol er mwyn datblygu a chryfhau’r Gymraeg, megis mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau yn yr ysgol.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw’r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth. Dywedodd: “Mae cymeradwyo’r cynllun heddiw yn garreg filltir bwysig i’n helpu i osod sylfaen ragorol i’n disgyblion wrth siarad a chyfathrebu yn Gymraeg. Bydd yn cynyddu dewis y disgybl i ddilyn trywydd cwbl ddwyieithog drwy weddill ei yrfa addysgol ac wrth wynebu byd gwaith a bywyd cymdeithasol yn y dyfodol. Ar yr un pryd, bydd y cymunedau o amgylch ein disgyblion a’n hysgolion yn elwa o’r ymdrech gynyddol hon i gryfhau’r Gymraeg yng Ngheredigion fel iaith gymunedol.”

Mae’r cynllun hefyd yn cyfrannu tuag at nodau llesiant cenedlaethol Cymru ac at nod Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.

Gellir gweld Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-32 yma: https://cyngor.ceredigion.gov.uk/documents/s2697/Adroddiad-%20Cynllun%20Strategol%20y%20Gymraeg%20mewn%20Addysg%202022-32.pdf?LLL=1

24/02/2022