Mae cyfle i grwpiau a sefydliadau ieuenctid gwirfoddol yng Ngheredigion wneud cais am grantiau i’w wario ar weithgarwch Gwaith Ieuenctid.

Ym mis Medi 2021, nododd adroddiad terfynol Bwrdd Ieuenctid Dros Dro Cymru 14 argymhelliad i wella’r cynnig Gwaith Ieuenctid yng Nghymru. Mae Cyngor Sir Ceredigion ynghyd ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru wedi derbyn cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru drwy’r Grant Cymorth Ieuenctid er mwyn cryfhau’r gwaith o gefnogi Argymhelliad 12 sef ‘Dylai Llywodraeth Cymru gynyddu nifer y gwasanaethau gwaith ieuenctid sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg’.

Mae cyfle i grwpiau a sefydliadau ieuenctid gwirfoddol yng Ngheredigion wneud cais am hyd at £20,000 drwy gynllun grantiau bach. Mae’r grantiau yma i’w wario ar weithgarwch Gwaith Ieuenctid addas i ddatblygu prosiect(au) Gwaith Ieuenctid cyfrwng Cymraeg ychwanegol, er mwyn cynorthwyo i fynd i’r afael â bylchau yn y ddarpariaeth sydd wedi eu hadnabod.

Mae grwpiau a sefydliadau ieuenctid gwirfoddol yn cael eu hannog i ystyried amrywiaeth o ddarpariaeth gwaith ieuenctid, gan gynnwys clybiau fin nos, darpariaeth chwaraeon, gwaith ieuenctid mewn ysgolion, a chyfleoedd i wirfoddoli drwy gyfrwng y Gymraeg. Gellir hefyd gwario'r cyllid ar adnabod, datblygu a darparu cyfleoedd i annog y defnydd o’r Gymraeg ymysg staff a gwirfoddolwyr a chynyddu eu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn y lleoliad.

Y Cynghorydd Alun Williams yw Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet ar gyfer Gydol Oes a Llesiant sy’n cynnwys y Gwasanaeth Ieuenctid. Dywedodd: “Hoffem annog grwpiau ieuenctid a sefydliadau gwirfoddol yng Ngheredigion i fanteisio ar y cyfle i ymgeisio am y cynllun gan ei fod yn gyfle iddyn nhw greu mentrau cadarnhaol drwy gyfrwng y Gymraeg yn y Sir."

I dderbyn pecyn gwybodaeth a’r ffurflen gais neu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â lowri.evans@ceredigion.gov.uk.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5yh ar 50 Ionawr 2023.

07/12/2022