Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi derbyn adroddiadau bod adar môr marw yn cael eu golchi i'r lan ar draethau Ceredigion. Mae'n debygol iawn fod yr adar yma wedi cael eu heintio gan y Ffliw Adar sydd wedi’i gadarnhau mewn nythfeydd adar môr yn Sir Benfro.

Gofynnir i aelodau'r cyhoedd gymryd gofal mawr er mwyn osgoi'r risg o ledaenu'r feirws hwn.  Mae posteri gwybodaeth yn cael eu harddangos mewn mannau risg posib yn cynghori aelodau'r cyhoedd i gadw at y llwybrau, i gadw cŵn ar dennyn ac i beidio bwydo adar dŵr gwyllt.  Gofynnir i aelodau'r cyhoedd beidio â chodi na chyffwrdd adar gwyllt sydd wedi trigo neu sy’n sâl, a pheidio cyffwrdd â phlu adar gwyllt neu arwynebau sydd wedi'u halogi â baw adar gwyllt.  Cynghorir unrhyw un sy'n cadw dofednod neu adar eraill i olchi eich dwylo gan lanhau a diheintio esgidiau cyn trin eich adar.

 Gofynnir i aelodau’r cyhoedd roi gwybod am adar dŵr gwyllt sydd wedi trigo (elyrch, gwyddau, neu hwyaid) neu adar gwyllt eraill sydd wedi trigo, megis gwylanod neu adar ysglyfaethus trwy ffonio llinell gymorth Brydeinig Defra ar 03459 335577.

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet Gwasanaethau Amgylcheddol: "Rwy'n bryderus iawn o glywed  y gallai achosion posib o ffliw adar fod wedi cyrraedd glannau Ceredigion, oherwydd yr effaith y gallai hyn ei chael ar ein bywyd gwyllt a’n diwydiant dofednod.  Mae swyddogion yn ymateb i wybodaeth a dderbyniwyd ar hyn o bryd, a gofynnwn i'r cyhoedd ddilyn y cyngor a roddir".

10/09/2022