Mae Arweinwyr y Siarter Iaith yng Ngheredigion a Sir Benfro wedi dod ynghyd i greu Calendr Adfent rhithiol Cymraeg yn arbennig i blant Ceredigion a Sir Benfro.

Mae Seren a Sbarc yn gwahodd plant Ceredigion a Sir Benfro i ymuno â dathlu'r Nadolig gyda llu o weithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd syrpréis dyddiol yn cael ei lansio ar dudalen Facebook Cardi Iaith Ceredigion a thudalen Facebook Shwmae Sir Benfro o 1 tan 25 Rhagfyr 2021.

Ceir amrywiaeth helaeth o weithgareddau Cymraeg yn cuddio tu ôl i ddrysau’r calendr – er enghraifft Stori Nadolig Cyw a’r Addurniadau gydag Elin Haf Jones, y cyflwynydd o Geredigion, Sesiwn glocsio, barddoni a llawer mwy.

Gobeithiwn y bydd y Calendr Adfent yn swyno plant Ceredigion a Sir Benfro yn ystod y cyfnod wrth ddathlu'r Nadolig.

Ewch draw i’n tudalennau Facebook: www.facebook.com/cardiiaith a www.facebook.com/shwmae i fod yn rhan o’r cyffro a chofiwch rannu eich lluniau a'ch fideos o dan ein postiadau Facebook i ledaenu hwyl yr ŵyl!

30/11/2021