Gall baw ci ddifetha mwynhad pawb o'r awyr agored.

Mae hyn yn arbennig o wir mewn ardal fel Ceredigion lle mae gennym draethau gwych yn ogystal â llwybrau gwledig a threfol hyfryd i'w harchwilio a'u mwynhau. Yn ogystal â bod yn annymunol i edrych arno, a hyd yn oed yn waeth i gamu ynddo, gall baw ci hefyd fod yn beryglus.

Yn ystod 2021 byddwn yn codi ymwybyddiaeth o'r problemau a achosir gan faw ci ac yn ceisio cael dylanwad cadarnhaol ar ymddygiadau er mwyn i bob perchennog ci ddelio â gwastraff ei ffrind gorau yn gyfreithlon ac yn gyfrifol.

Byddwn yn defnyddio deunyddiau, gan gynnwys arwyddion a stensiliau arbennig, ledled Ceredigion dros dro i wneud argraff weladwy a nodi neges glir: Eich Ci Eich Cyfrifoldeb.

Bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar fannau poblogaidd megis parciau, llwybrau, yn ogystal â strydoedd a mannau cyhoeddus eraill. Lansiwyd y cynllun yn Aberteifi yn ddiweddar.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghyd â Thai: “Hoffem ddiolch i’r holl berchnogion cŵn cyfrifol hynny sy’n gwneud y peth iawn, a byddem yn annog pawb i wneud eu rhan i sicrhau y cedwir Ceredigion yn lân. Hoffwn hefyd atgoffa perchnogion cŵn y gellir cael gwared â baw ci sydd wedi’i roi mewn bag drwy ei roi mewn unrhyw fin gwastraff cyffredinol ar strydoedd Ceredigion.

Mae Eich Ci Eich Cyfrifoldeb yn cefnogi Caru Ceredigion lle gall pawb chwarae rhan ragweithiol gadarnhaol wrth wneud pethau sy'n dda iddyn nhw, eu cymunedau a Cheredigion. Bydd hyn yn sicrhau bod Ceredigion yn parhau i fod yn lle gwych i fyw ynddo ac ymweld ag ef ac yn helpu i gynnal y proffil cadarnhaol y mae'n ei haeddu.

03/08/2021