Cynhelir Wythnos Genedlaethol Diogelu rhwng 15 a 19 Tachwedd.

Mae Cyngor Sir Ceredigion, ynghyd ag asiantaethau partner cyfagos, yn rhan o Fwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru o'r enw CYSUR (Bwrdd Plant) a CWMPAS (Bwrdd Oedolion) sy'n rhoi cymorth i blant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl o niwed.

Eleni, mae’r Bwrdd Diogelu yn archwilio themâu sydd wedi bod yn arbennig o berthnasol drwy gydol y pandemig. Mae cyfres o seminarau a gweithdai wedi'u llunio i godi ymwybyddiaeth o'r themâu sy'n cynnwys Cam-drin Domestig, Camfanteisio, Hunanladdiad a Hunan-Niwed a Hunan-Esgeulustod.

Dywedodd Sian Howys, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal: "Mae pob un ohonom yn chwarae rhan yn y gwaith o ddiogelu, boed hynny drwy weithio’n uniongyrchol gyda phobl fregus, cyflawni rolau cefnogol neu drwy gadw llygad ar ffrindiau, perthnasau a chymdogion. Mae diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb a rhaid i bob un ohonom weithio gyda’n gilydd i ddiogelu ac amddiffyn pobl o bob oed yng Ngheredigion.”

Mae'r Cyngor wedi gweithio'n eithriadol o galed dros y 18 mis diwethaf i addasu a pharhau i gynnig ein gwasanaethau hanfodol drwy gydol y pandemig, sy'n cynnwys ein gweithwyr cymorth a'n swyddogion diogelu. Bydd gan staff y Cyngor fynediad at adnoddau a gwybodaeth amrywiol yn ystod yr wythnos i godi ymwybyddiaeth o arferion gorau diogelu a'r cymorth sydd ar gael.

Dywedodd Alun Williams, Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Borth Cynnal: “Mae diogelu oedolion a phlant sydd mewn perygl yn parhau i fod yn flaenoriaeth ledled Ceredigion ac mae staff wedi cydweithio i barhau i ddarparu ymatebion diogelu cadarn ac effeithiol yn ystod y pandemig. Rydym yn gofyn i bawb yng Ngheredigion i ofalu am ei gilydd er mwyn helpu'r rhai a allai fod mewn perygl o gael eu cam-drin a'u hesgeuluso. Mae'r rhaglen o ddigwyddiadau yn ystod yr Wythnos Ddiogelu Genedlaethol yn gwella'r gwaith o godi ymwybyddiaeth o nifer o faterion diogelu i'r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol fel ei gilydd.”

Os ydych yn pryderu am rywun a allai fod mewn perygl o niwed, cysylltwch â Phorth Gofal ar 01545 574000 (oriau swyddfa) neu 0300 4563554 (tu allan i oriau swyddfa).

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ychwanegol yma: Gofal cymdeithasol a lles.

Ewch i @CYSURCymru ar Facebook a Twitter i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eu gweithgareddau yn ystod yr wythnos.

15/11/2021