Eleni, mae Wythnos Gwaith Ieuenctid rhwng 23-30 Mehefin. Mae hyn yn gyfle i ddathlu'r straeon cadarnhaol a'r llwyddiannau o'r 12 mis diwethaf - gan dynnu sylw at yr arloesedd, y gwytnwch a'r dyfeisgarwch y mae'r sector wedi'i ddangos yn ystod blwyddyn eithriadol o anodd.

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi defnyddio eu darpariaeth ers dechrau'r pandemig i gynnig mannau digidol a chyfleoedd i bobl ifanc gymdeithasu, derbyn addysg a chymryd rhan mewn gweithgareddau a gweithdai ar-lein.

Yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid, bydd y Sector Gwaith Ieuenctid yn tynnu sylw at eu llwyddiannau ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn cydnabod y cyfraniad y mae pawb sy'n gweithio yn y Gwasanaethau Gwaith Ieuenctid wedi'i wneud i bobl ifanc a chymunedau. Bydd cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau, gweithdai a chystadlaethau i ddathlu'r wythnos. Eleni, mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yn seiliedig ar y thema ‘Mynegiannol’, lle mae cyfle bob dydd o’r wythnos i dynnu sylw at gyflawniadau, dweud diolch, a gwella dealltwriaeth ynghylch gwaith ieuenctid - gan gwmpasu gwasanaethau gwaith ieuenctid yn yr ystyr ehangaf.

Dywedodd un o’n haelodau ifanc: “Mae derbyn cefnogaeth Gweithiwr Ieuenctid yn ystod y pandemig wedi golygu fy mod wedi cael cyfleoedd i dderbyn galwad ffôn neu neges destun pryd bynnag yr wyf ei heisiau neu ei hangen, rwyf wedi cael cynnig mynd am dro os oes angen a chefais gyfle i fynd i'r ysgol sawl diwrnod yr wythnos yn ystod y cyfnod clo. Mae cael yr adnoddau hyn wrth law wedi golygu fy mod wedi gallu ymdopi’n emosiynol yn ystod y cyfnod clo hwn, ond hefyd wedi gallu cadw trefn ar fy ngwaith ysgol sydd hefyd yn cyfrannu at ymdopi’n well yn emosiynol.”

Elen James yw Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cymorth Cynnar. Dywedodd “Rwyf wedi gweld drosof fy hun yr effaith y gall gwaith ieuenctid ei chael ar fywydau pobl ifanc yma yng Ngheredigion. I nifer o bobl ifanc, mae Gwaith Ieuenctid yn achubiaeth iddynt. Mae Gwaith Ieuenctid yn darparu lle diogel i bobl ifanc, porth at gyfleoedd, ac yn eu paratoi ar gyfer eu dyfodol, ond yn bwysicaf oll, mae Gwaith Ieuenctid yn caniatáu i bobl ifanc gael eu clywed, ymlacio, cael hwyl, dysgu, cymdeithasu, tyfu a datblygu. Mae gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn ymdrechu i ddarparu profiadau a sgiliau i bobl ifanc a fydd yn para am oes.”

I gael rhagor o wybodaeth am waith Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, ewch i'w tudalen Facebook, Twitter neu Instagram @GICeredigionYS neu ewch i'w gwefan www.giceredigionys.co.uk.

 

 

24/06/2021