Y thema ar gyfer Wythnos Ffoaduriaid 2021, a gynhelir rhwng 14 a 20 Mehefin, yw 'Ni allwn gerdded ar ein pennau ein hunain'. Mae'r thema wedi'i hysbrydoli gan araith hanesyddol Martin Luther King yn 1963, sef 'Mae gen i freuddwyd', lle y mae'n sôn am bwysigrwydd undod a chydraddoldeb i bawb a sut y mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae i sicrhau bod y cenedlaethau presennol a chenedlaethau'r dyfodol yn cael eu trin yn deg.

Mae'r anghydraddoldeb mawr rhyngom wedi dod i'r amlwg yn ystod heriau'r flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys o ran tai, incwm a chael mynediad i ofal iechyd. Ond mae'r argyfwng hefyd wedi dangos pa mor gysylltiedig ydym, a bod llesiant pob un ohonom yn dibynnu ar les, diogelwch a gwaith caled eraill. Rydym i gyd yn un.

Mae Cyngor Sir Ceredigion ynghyd â Chyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Sir Powys wedi bod yn croesawu ac yn cynnal teuluoedd sydd wedi ffoi o Syria am dros 5 mlynedd ac maent yn falch o'r gwahaniaeth anhygoel y mae'r cynllun wedi'i wneud i'r oedolion a'r plant sy'n ffoi rhag rhyfel a thrais.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, sydd yn Gadeirydd Grŵp Ailsefydlu Ffoaduriaid Ceredigion, “Rwy’n falch iawn o’r ffordd y mae ein cymunedau wedi croesawu’r ffoaduriaid o Syria sydd wedi dod i fyw yn ein plith. Mae Ceredigion wedi profi i fod yn hafan ddiogel iddyn nhw i gyd, gan eu galluogi i ail-ymgartrefu mewn amgylchedd diogel a dod yn rhan o’r gymuned leol.”

Yn rhan o Wythnos Ffoaduriaid 2021 mae Tîm Cydlyniant Cymunedol Canolbarth a De-orllewin Cymru yn annog pawb i gymryd rhan mewn gweithredoedd syml i gydsefyll gyda'ch cyd-ddyn. Mae'r rhain yn weithredoedd pob dydd y gallwn eu gwneud i gydsefyll gyda ffoaduriaid a gwneud cysylltiadau newydd yn ein cymunedau.

Rydym bellach yn gofyn ichi ddathlu ein teuluoedd sy'n ffoaduriaid lle bynnag rydych yn byw. P'un a ydych yn creu eich digwyddiad neu eich gweithgaredd eich hun sy'n ymwneud â gweithred syml neu'n cymryd rhan yn ystod yr wythnos ei hun, byddwch yn rhan o symudiad lle y mae pobl ym mhob man yn gwneud camau bach i greu newid mawr.

Hefyd hoffem ddal ar y cyfle hwn i'ch gwahodd i wylio ein ffilm fer, a gynhyrchwyd cyn i'r pandemig ddechrau. Mae'r ffilm yn dangos dau ddigwyddiad sy'n hoelio sylw ar ffoaduriaid yng Ngheredigion a Phowys. Rydym yn hyderus y byddwch yn cytuno bod y ffilm hon yn dangos y gwaith arbennig a wneir gan ein cymunedau o ffoaduriaid ac yn dathlu natur gynhwysol a chyfeillgar ein rhanbarth. Gallwch wylio’r ffilm fer yma: https://www.youtube.com/watch?v=q1z8NSQtGBY

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut y gallwch gymryd rhan i ddathlu Wythnos Ffoaduriaid 2021, ewch i https://refugeeweek.org.uk/

14/06/2021