Gall pobl sy'n awyddus i glywed hanesion o orffennol Aberystwyth ymweld â gwefan Amgueddfa Ceredigion i gael mynediad i'r daith gerdded hanes am ddim dan arweiniad, sef 'Digwyddodd yn Aber'.

Mae'r daith sain yn cynnwys map a chyfres o straeon yn ymwneud â phum lleoliad yn Aberystwyth, ac mae'n dechrau ac yn gorffen yn yr Amgueddfa.

Mae'r daith yn ffordd berffaith o dreulio amser dros gyfnod yr ŵyl. Bydd o ddiddordeb i drigolion Aberystwyth ac i ymwelwyr sydd am ddysgu mwy am hanes lliwgar y dref, yn ogystal â’r cymeriadau, y digwyddiadau a'r straeon sydd wedi ei llunio.

Dywedodd Carrie Canham, Curadur Amgueddfa Ceredigion: "Mae’r flwyddyn hon wedi amlygu pwysigrwydd gallu cymryd rhan mewn byd digidol ac mae'r prosiect hwn yn diwallu anghenion newydd ein cynulleidfaoedd. Mae treftadaeth yn ymwneud â chymaint mwy na dyddiadau a phobl a lleoedd enwog, ac roeddem am gasglu straeon y byddech fel arfer yn eu clywed mewn tafarn, mewn aduniad ysgol neu dros goffi. Straeon sy'n ein cysylltu â’r dref yr ydym yn byw ynddi."

I greu'r daith, bu Amgueddfa Ceredigion yn gweithio gyda'r gymuned leol, haneswyr ac arbenigwr adrodd straeon digidol i gasglu straeon Aberystwyth a chysylltu'r gymuned ehangach ar lwyfannau digidol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Diwylliant: “Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am y straeon a luniodd tref Aberystwyth i ymweld â gwefan Amgueddfa Ceredigion i gael mynediad i'r daith wych hon. Diolch yn fawr i'r holl staff a’r grwpiau lleol sydd wedi gweithio gyda'i gilydd i dynnu sylw at y straeon gwych hyn sy'n rhan annatod o'n hanes."

Roedd y prosiect yn bosibl diolch i gais llwyddiannus ar gyfer y gronfa 'treftadaeth 15 munud', sef partneriaeth rhwng Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru.

Gallwch gael mynediad i’r daith am ddim ‘Digwyddodd yn Aber’ ar wefan Amgueddfa Ceredigion.

03/12/2021