Rhybudd am lifogydd mewn rhannau o Geredigion.
Dydd Mercher 08.12.2021 12:30
Rydym yn ymwybodol o ddifrod llifogydd i'r prom yn Aberystwyth ac yn Borth/Ynyslas, a bod tonnau wedi torri dros y lan yn Aberaeron, a bod nifer o goed wedi cwympo. Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw lifogydd sylweddol.
Mae swyddogion allan heddiw yn asesu'r difrod, ond ni fyddwn mewn sefyllfa i wneud llawer o waith clirio/atgyweirio tan yfory oherwydd llanw uchel parhaus a rhybuddion tywydd.
Dydd Mercher 08.12.2021 08:25
Ffordd ar gau
Mae Glan-y-Môr ar gau rhwng y Pier a Maes Albert oherwydd effaith Storm Barra dros nos.
Dydd Mawrth 07.12.2021 15:55
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhyddhau rhybuddion am lifogydd ar gyfer llanw uchel yng Nghlarach, prom Aberystwyth, Aberaeron ac Aberteifi.
Byddwch yn ofalus ar draethau, promenadau, llwybrau troed arfordirol, ffyrdd a thir isel. Byddwch yn ofalus gan y gallai chwistrellau'r môr a thonnau fod yn beryglus a gallai gynnwys malurion.
Dydd Mawrth 07.12.2021 14:30
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhyddhau rhybudd am lifogydd ar gyfer llanw uchel yn ardal y Borth ac Afon Leri, y Borth.
Daw hyn wrth i Storm Barra daro rhannau o Gymru. Gellir disgwyl tonnau’n torri dros y lan ar lan y môr yn y Borth rhwng 21:15pm a 23:45pm. Yr eiddo sydd agosaf at lan y môr sydd fwyaf mewn perygl.
Disgwylir hefyd i lefelau’r afon godi dros gyfnod y llanw uchel heno ac mae amddiffynfeydd llifogydd bellach mewn grym. Gall tonnau sy’n torri dros yr amddiffynfeydd hyn, neu sy’n eu torri, achosi llifogydd i eiddo sydd mewn perygl yn y Borth, Parc Carafanau Glanleri a’r Animalariwm, ynghyd â’r ardal rhwng Ynyslas a Brynowen a thir isel ac eiddo rhwng amddiffynfeydd y môr.
Os ydych yn poeni neu’n profi llifogydd, ffoniwch Floodline ar 0345 988 1188 gan ddefnyddio’r côd deialu cyflym: 603035.
Gallwch hefyd fynd i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru i weld y rhybuddion llifogydd sydd mewn grym ar y pryd, gwirio lefelau’r afon neu’r môr, neu gadw llygad ar y rhagolygon pum niwrnod ar gyfer y risg o lifogydd: Cyfoeth Naturiol Cymru.
Gallwch hefyd ddilyn Cyngor Sir Ceredigion, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Met Office ar y cyfryngau cymdeithasol i gael diweddariadau ar sefyllfa’r tywydd.
Bydd unrhyw fanylion pellach yn cael eu diweddaru ar y dudalen hon.
07/12/2021