Anogir busnesau Ceredigion i roi eu barn i ddatblygu anturiaethau diwylliannol dan arweiniad.

Mae Cynnal y Cardi, sy'n gweithredu'r cynllun LEADER yng Ngheredigion, wedi comisiynu Wales Best Guides Enterprises Ltd i archwilio'r hyn sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Ngheredigion, a'r cyfleoedd y gellid eu creu i gael mwy o ymwelwyr i ardaloedd mewndirol gwledig Ceredigion.

Mae'r ymchwilwyr yn awyddus i siarad â busnesau lleol i gwmpasu barn y sectorau twristiaeth a gwasanaeth yng Ngheredigion ar gyfer datblygu “Anturiaethau Diwylliannol dan Arweiniad”. Mae Cynnal y Cardi yn gweithio gyda Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen gyda'r ffocws i ddechrau ar yr ardaloedd o amgylch Llandysul. Nod cyffredinol yr ymchwil yw trosglwyddo'r model i drefi eraill Ceredigion.

Y brif egwyddor y tu ôl i'r astudiaeth ddichonoldeb yw nodi cyfleoedd a dulliau er mwyn dod ag ymwelwyr i'r ardaloedd gwledig mewndirol o'r llain arfordirol brysur, naill ai trwy ddulliau corfforol, digidol neu hyrwyddo eraill.

Mae rhai o'r syniadau cyfredol yn cynnwys; taith fysiau yn casglu teuluoedd ac unigolion o lety ar yr arfordir i gymryd rhan mewn taith diwrnod llawn gweithgareddau; taith moduro ddigidol hunan-dywysedig o bethau i'w gwneud i deuluoedd, neu grwpiau ymwelwyr annibynnol eraill; a digwyddiadau lleol y gellir eu hyrwyddo i ymwelwyr fel diwrnod allan gwych, fel sioe bentref. Wrth gwrs, yn bwysicaf oll, mae angen profiadau gwych gael eu harddangos, neu greu profiadau sydd newydd eu datblygu.

Bydd yr ymchwilwyr yn siarad ag ymwelwyr dros yr haf a dechrau'r hydref, a busnesau i drafod pa brofiadau y gellid eu datblygu. Mae'r prosiect yn eich annog i ymuno yn yr ymchwil os cewch gyfle. Mae eich barn yn allweddol i lwyddiant y fenter hon i hybu ein heconomi twristiaeth wledig.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion sydd â chyfrifoldeb am yr Economi ac Adfywio, “Rydym yn annog busnesau i ddod ymlaen a helpu Wales Best Guides Enterprises Ltd gyda'u barn a'u syniadau amhrisiadwy i ni ddatblygu anturiaethau diwylliannol dan arweiniad. Wrth i’r economi wella o Covid-19, rydym am helpu i ddatblygu model a fydd nid yn unig o fudd i ardaloedd gwledig Ceredigion, ond yn cefnogi’r sectorau twristiaeth a gwasanaeth yng Ngheredigion, wrth inni edrych ymlaen at bŵm twristiaeth newydd.”

Rhannwch eich barn a'ch syniadau gyda Gareth Huw Davies ar 07583 853557 neu gareth_huw_davies@msn.com.

Cefnogir y prosiect hwn trwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariannir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

05/08/2021