Gallwch nawr gael gafael ar rai o Sachau Cryf Caru Aber i helpu i achub y dydd ar ddyddiau casglu gwastraff yn Aberystwyth. Mae’r sachau ar gyfer storio a chyflwyno eich gwastraff ac maent ar gael am £10.50 yr un o siop Amgueddfa Ceredigion a’r Ganolfan Groeso.

Y sachau cryf yw’r cynllun diweddaraf mewn cyfres o gynlluniau peilot sy’n gobeithio gwella’r problemau sy’n codi wrth gyflwyno gwastraff yng nghanol tref Aberystwyth. Gellir defnyddio’r sachau i storio gwastraff a’i ddiogelu rhwng yr amser y caiff ei gyflwyno ar y stryd a’i gasglu.

Mae’r sachau’n cynnig dewis amgen i finiau olwynion a chynwysyddion eraill lle gall lle storio a mynediad fod yn broblem. Maent yn diogelu’r gwastraff yn well rhag bywyd gwyllt, gan gynnwys gwylanod, yn ogystal â’r tywydd.

Mae sachau gwyn ar gael, ar gyfer bagiau ailgylchu clir sy’n cael eu casglu bob wythnos, a sachau du ar gael, ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu (bagiau du) sy’n cael ei gasglu bob tair wythnos. Bydd pob sach yn dal hyd at dri neu bedwar bag gwastraff arferol.

Y Cynghorydd Dafydd Edwards yw Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, Tai a Chyswllt Cwsmeriaid. Dywedodd: “Dyma'r diweddaraf o nifer o fesurau y mae'r Cyngor Sir wedi'u cyflwyno yn Aberystwyth i geisio gwella problemau sy’n bodoli ers tro yn ymwneud â chyflwyno gwastraff. Er mwyn i'r sefyllfa wella ymhellach, bydd angen cymorth gan randdeiliaid lleol yn Aberystwyth i gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu gwastraff. Mae’r sachau hyn yn rhoi cyfle arall i gyflawni hyn.”

Dyma'r cynllun peilot diweddaraf a lansiwyd yn rhan o ‘Caru Ceredigion’. Mae Caru Ceredigion yn ymwneud ag ymgysylltu'n gadarnhaol ac yn rhagweithiol â chymunedau lleol wrth ddarparu atebion i faterion sy'n bwysig neu sy'n peri pryder iddyn nhw. Mae'r problemau sy'n codi yn Aberystwyth ar y diwrnod casglu gwastraff ac o’i gwmpas yn deillio o beidio â chyflwyno'r gwastraff yn y ffordd gywir a/neu ar y diwrnod cywir.

Daeth y cynllun hwn i fod ar ôl y trafodaethau diweddaraf rhwng y Cyngor a Chyngor Tref Aberystwyth. Mae’r Cyngor Tref yn gwbl gefnogol o’r cynllun. Dywedodd Maer Aberystwyth, y Cynghorydd Alun Williams: “Er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r problemau sy'n gallu codi o gwmpas diwrnodau casglu gwastraff yng nghanol y dref, mae angen ymrwymiad a chyfranogiad cadarnhaol gan yr holl drigolion. Mae gan bob un ohonom sy'n byw yn y dref gyfrifoldeb i ddelio â'n gwastraff yn y ffordd gywir ac mae hynny'n cynnwys y ffordd y caiff ei gyflwyno i'w gasglu. Rwy'n gwybod bod llawer o bobl wedi gofyn am gael y dewis o ddefnyddio sachau i ddiogelu eu bagiau gwastraff. Rwy'n siŵr y bydd galw am y sachau a byddwn i gyd yn elwa o stryd daclusach ar ddiwrnodau casglu.”

Efallai y bydd y rheini sy'n prynu'r sachau eisiau eu personoli (rhoi enw/rhif y tŷ ac ati) fel bod eu sachau'n hawdd eu hadnabod wrth eu nôl ar ôl i’r gwastraff yn y sachau gael ei gasglu.

Mae Amgueddfa Ceredigion a’r Ganolfan Groeso wedi’u lleoli mewn man cyfleus ar Ffordd y Môr ger canol y dref. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ceredigionmuseum.wales/hafan/

Yn dilyn adolygiad, mae’r Cyngor Sir hefyd wedi ymestyn cynllun peilot sy’n bodoli eisoes ar rai o strydoedd canol y dref lle mae’n darparu sachau gwastraff cryf gwyn cymunedol i storio bagiau ailgylchu clir bob wythnos cyn y casgliadau. Mae sachau cryf du eisoes yn cael eu defnyddio ar y strydoedd hynny bob tair wythnos er mwyn storio gwastraff na ellir ei ailgylchu (bag du) ar y stryd.

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â Caru Ceredigion, ewch i: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/caru-ceredigion/

 

 

02/12/2021