Meddwl am brynu e-sgwter yn anrheg y Nadolig hwn? Efallai yr hoffech ailfeddwl.

Mae Heddlu Dyfed-Powys, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, a chynghorau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys, wedi dod at ei gilydd i atgoffa pobl ei bod hi’n anghyfreithlon reidio e-sgwteri mewn meddiant preifat ar ffyrdd cyhoeddus, palmantau a llwybrau beicio, ac mewn parciau.  

Mae unrhyw un sy’n cael ei ddal yn gwneud hyn mewn perygl o dderbyn dirwy o £300 a chwe phwynt cosb ar ei drwydded yrru, a chael yr e-sgwter wedi’i atafaelu.

Gellir ond defnyddio e-sgwteri ar dir preifat â chaniatâd y perchennog tir.

Dywedodd y Prif Arolygydd Thomas Sharville o’r adran Gweithrediadau Arbenigol: “Byddwn yn atgoffa unrhyw un sy’n ystyried prynu e-sgwter yn anrheg Nadolig ei bod hi’n anghyfreithlon defnyddio e-sgwter mewn meddiant preifat ar ffyrdd cyhoeddus, palmentydd neu lwybrau beicio.

“Gall eu cyflymder a’u tawelwch gyflwyno perygl sylweddol i ddiogelwch cerddwyr a defnyddwyr eraill y ffyrdd, yn arbennig cerddwyr bregus.

“Ystyriwch anrheg fwy addas a diogel ar gyfer eich anwyliaid os gwelwch chi’n dda.

“Efallai bod masnachwyr yn hapus i werthu un ichi, ond fe allai gael ei atafaelu’r eiliad yr ydych yn ceisio’i ddefnyddio mewn man cyhoeddus.”

Yn ogystal, ar gyfer unrhyw yrrwr neu feiciwr modur sydd wedi pasio ei brawf yrru yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, gallai arwain at waharddiad rhag gyrru a’r angen i sefyll y prawf theori a’r prawf gyrru ymarferol eto.

Mae rhentu e-sgwter yn cael ei dreialu mewn rhai ardaloedd yn Lloegr ar hyn o bryd, ond dylid ond eu defnyddio o fewn yr ardal leol sy’n cynnal y treial.

06/12/2021