Bydd parcio am ddim ym mhob maes parcio Talu ac Arddangos Cyngor Sir Ceredigion ar y tri dydd Sadwrn cyn y Nadolig eleni.

Bydd costau parcio ym meysydd parcio Talu ac Arddangos y cyngor yn cael eu hepgor ar 4, 11 a 18 Rhagfyr 2021.

Y Cynghorydd Dafydd Edwards yw’r Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, Tai a Chyswllt Cwsmeriaid. Dywedodd: “Wrth i fusnesau Ceredigion baratoi ar gyfer y Nadolig, mae’n rhaid iddynt wneud hynny wrth gystadlu yn erbyn cwmnïau rhyngwladol mawr ar-lein. Rydym eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi busnesau Ceredigion, a gobeithio y bydd parcio am ddim ar ddydd Sadwrn yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig yn perswadio mwy ohonom i siopa’n lleol. Mwynhewch yr hyn sydd gan fusnesau gwych Ceredigion i’w gynnig.”

Mae'r penderfyniad hwn gan Gabinet y Cyngor yn cyfrannu at un o flaenoriaethau corfforaethol y Cyngor, sef hybu'r economi.

16/11/2021