Cychwynnodd y dasg o greu jig-so blynyddol y Panto o gwmpas mis Mehefin eleni. A ninnau yn parhau yng nghrafangau Covid roedd hi’n amhosib gwybod beth fyddai’n cael ei ganiatáu erbyn diwedd mis Hydref pan fyddai’r ymarferion yn cychwyn, ond braf yw cael cyhoeddi y bydd Panto eiconig Cwmni Actorion Theatr Felinfach yn dychwelyd i’r llwyfan eleni.

Bydd nifer o bethau’n wahanol wrth gwrs; bydd hi’n sioe fyrrach, bydd nifer cyfyngedig o docynnau ar gael i bob perfformiad, bydd rhaid parhau i ddilyn rheolau pellhau cymdeithasol a gwisgo mwgwd ac fe fydd y drefn o fewn yr adeilad yn wahanol hefyd.

Ond ‘Ni Nôl a Ni Mlan!’ a dyna sy’n bwysig! ‘Ry ni gyd wedi hen gyfarwyddo ar addasu bellach ac mae meddwl am gael dychwelyd i’r Theatr a chael profi’r naws hudol yna a ddaw pan aiff y golau lawr a chlywed y gynulleidfa’n distewi yn barod am sioe liwgar, swnllyd a hwyliog yn ddigon i godi gwên.

Beth tybed sy’n ein disgwyl? Mae cyffro mawr yn Nyffryn Aeron ac ar draws Cymru gyfan o ran hynny. Mae Al y Ci, Mami a’r Ficer wedi bod yn gweithio ar gywaith - hanes Cymru o bersbectif hollol newydd. Mae Hanes Ci-mru ar fin cael ei lansio yn Y Drwm yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Ond mae’r Dynion Drwg yn eu holau gyda chynllun aml-haen fydd yn rhoi stop ar Filiwn o Siaradwyr, stop ar ddiwylliant, stop ar drosglwyddo straeon a hanesion o genhedlaeth i genhedlaeth….mae’n gynllun anhygoel!

Pwy fydd yn ennill y dydd ac yn sicrhau bod ein hetifeddiaeth yn ddiogel? Dewch i Theatr Felinfach rhwng 4 – 11 Rhagfyr i ffeindio mas. Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael i bob sioe felly cysylltwch yn fuan cyn iddynt redeg mas!

Am docynnau, cysylltwch â’r swyddfa docynnau rhwng Llun – Gwener 9:30yb – 3:30yp. Os na chewch ateb gan y  swyddfa docynnau, gadewch neges gyda'ch enw a'ch rhif ffôn ar ein peiriant ateb, neu anfonwch e-bost at theatrfelinfach@ceredigion.gov.uk a byddwn yn cysylltu â chi.

I gael mynediad bydd angen i chi ddangos Pas COVID y GIG (18+) neu eich Cerdyn Cofnod Brechlyn, Prawf ID (18+) a thystiolaeth o brawf llif unffordd negatif dim mwy na 48 awr cyn y perfformiad (11+).

Gweithredir canllawiau Covid-19 a bydd mesurau ymbellhau cymdeithasol ar waith ym mhob sioe.

Cofiwch:

  • Ni dderbynnir archebion oddi ar unrhyw un o’n llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
  • Bydd angen talu’n llawn wrth archebu.
  • Bydd y perfformiad cyntaf ar ddydd Sadwrn yn cychwyn am 4yp
  • Bydd perfformiadau’r nos o ddydd Llun i ddydd Gwener yn dechrau am 7:30yh
  • Bydd dau berfformiad ar y Sadwrn olaf; am 3yp a 7:30yh
  • Bydd gwerthiant tocynnau yn cau am 3:30yp ar ddiwrnod y sioe.

11/11/2021