Mae menter newydd wedi’i lansio i gydlynu a hwyluso cyflwyno gweithgaredd adfywio a fydd yn cynorthwyo gydag adferiad economaidd trefi gwledig a chymunedau anghysbell Ceredigion.

Cefnogir y fenter gan Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi (GGLl) a phenodwyd Swyddog Datblygu Trefi Gwledig Ceredigion a fydd yn gweithio ochr yn ochr â Thîm Cynnal y Cardi i gefnogi datblygiad pecyn o syniadau i greu trefi ffyniannus a chadarn sy'n canolbwyntio ar bobl.

Gan adeiladu ar sail ymgysylltiad blaenorol, bydd y broses yn cychwyn gyda swyddogion yn ymgysylltu â chynrychiolwyr trefi i'w cefnogi i gyflwyno eu syniadau. Cymerir dull cydweithredol, gan weithio gyda'r gymuned leol, busnesau ac asiantaethau i annog syniadau cynaliadwy sy'n cwrdd â'r heriau a'r cyfleoedd parhaus wrth inni adfer o'r pandemig COVID-19.

Dywedodd Beti Gordon, y Swyddog Datblygu Trefi Gwledig sydd newydd gael ei phenodi: "Mae hyn yn rhywbeth rwy'n wirioneddol angerddol amdano ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda'r cymunedau lleol i hwyluso gwelliannau yn y trefi a'r cymunedau anghysbell yng Ngheredigion."

Mae’r Grŵp Gweithredu Lleol wedi nodi nifer o flaenoriaethau a bydd y fenter hon yn archwilio cyfleoedd i gryfhau gallu a gwytnwch cymunedau Ceredigion; gan adeiladu ar y momentwm ar gyfer prynu lleol wrth ychwanegu gwerth at gynhyrchion lleol i gefnogi a chynnal economi trefol Ceredigion.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am yr Economi ac Adfywio: “Mae’r heriau sy’n wynebu trefi gwledig a chymunedau anghysbell Ceredigion yn amlwg. Fodd bynnag, mae hwn yn gyfle i nodi beth yw dyheadau ein trefi a rhoi’r rheiny ar waith gyda’r gefnogaeth ariannol a chydlynol sydd ar gael. Mae angen i ni weithio gyda'n gilydd i oresgyn heriau’r cyfnod adfer COVID-19 trwy gyfrwng syniadau newydd ac arloesol. Mae Strategaeth Economaidd Ceredigion wedi nodi pedwar maes blaenoriaeth lle bydd gweithredoedd yn cael eu targedu er mwyn gwneud gwahaniaeth; Pobl, Lle, Menter a Chysylltedd, a thrwy fenter Adfywio Trefi Gwledig Ceredigion gallwn barhau i adeiladu a chryfhau economi Ceredigion. ”

Cefnogir y fenter hon trwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

I drafod eich syniadau, e-bostiwch Cynnal y Cardi (cynnalycardi@ceredigion.gov.uk) neu ewch i wefan Cynnal y Cardi 

 

29/10/2021