Heddiw, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi'r rhestr o ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer y Gronfa Adfywio Cymunedol. Ar ôl gwneud cais am y gronfa ym mis Mehefin 2021, mae Cyngor Sir Ceredigion a'i bartneriaid lleol wedi llwyddo i sicrhau cyllid gwerth cyfanswm o £2,830,546 ar gyfer prosiectau cymunedol.
Daw’r dyfarniad cyllid ar ôl proses ymgeisio a gynhaliwyd ym mis Mai eleni a oedd yn ceisio cynigion i gefnogi pobl a chymunedau i dreialu rhaglenni a dulliau newydd, a bydd yn buddsoddi mewn sgiliau, cymuned a lle, busnesau lleol, ac yn cefnogi pobl i gael gwaith.
Yn dilyn y cais am gynigion, roedd y cais terfynol a gyflwynwyd i Lywodraeth y DU yn gofyn am ychydig o dan £3 miliwn ac yn cynnwys pecyn o 12 prosiect lleol, ac maent i gyd wedi cael eu cefnogi yn y cyhoeddiad a gafwyd heddiw ynghylch cyllid:
- AberInnovation Productivity Accelerator
- AnTir Feasibility Project
- BioAccelerate
- Building the Resilience of Historic Visitor Attractions By Developing Volunteer Ability
- Canolfan Tir Glas
- Enabling the Recovery of Ceredigion Towns
- Enterprise Ceredigion
- Lle i Weithio
- Mid Wales Challenge Led Launch Pad Series
- New Skills New Start
- Reverb
- Rural Community Engagement and Outreach Project
Ellen ap Gwynn yw Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd: “Mae’n bleser gen i groesawu’r newyddion gwych hwn a ddaeth yn sgil y cyhoeddiad heddiw ac yn edrych ymlaen at glywed mwy o fanylion gan Lywodraeth y DU a gweithio gyda’n partneriaid i wireddu’r prosiectau hyn er budd ein cymunedau.”
03/11/2021