Dymuna Cyngor Sir Ceredigion longyfarch disgyblion Ceredigion sydd yn derbyn eu canlyniadau TGAU, Uwch Gyfrannol ac Uwch yr wythnos hon.

Bu’n flwyddyn aruthrol o heriol i’n pobl ifanc ac rydym yn llawn balchder o’u haeddfedrwydd a dygnwch wrth ymdopi â’r heriau hyn. Maent wedi ymroi i ddull asesu gwahanol iawn, gan baratoi’n ddyfal at gyfres o asesiadau dros gyfnod o amser. Hoffem ddiolch o galon i staff ac arweinwyr ein hysgolion am eu gwaith proffesiynol yn arwain a chefnogi ein pobl ifanc drwy’r cyfnod hwn a hynny er mwyn sicrhau’r cyfleoedd gorau i’r disgyblion yn eu gofal. Mae’r canlyniadau a gyhoeddir yr wythnos hon mor werthfawr ag erioed, ac mae ein pobl ifanc yn haeddu eu llongyfarch yn galonnog ar gyrraedd safonau uchel yn wyneb cymaint o anawsterau. Dymunwn y gorau iddynt wrth symud gyda’r seiliau cadarn hyn i gam nesaf eu haddysg neu gyflogaeth.

Llongyfarchiadau

Nododd Benaethiaid ein hysgolion Uwchradd a Chydol Oed fel a ganlyn:

Dywedodd Jane Wyn, Pennaeth Ysgol Bro Pedr: "Rydym yn falch iawn o gyflawniadau’r disgyblion a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddymuno pob llwyddiant i'r disgyblion yn y dyfodol. Fel ysgol, rydym yn credu bod y canlyniadau hyn yn brawf o waith caled y disgyblion, safonau addysgu uchel yr ysgol a chymorth y rhieni yn ystod blwyddyn academaidd heriol iawn.”

Nododd Nicola James, Pennaeth Ysgol Uwchradd Aberteifi: "Dylai ein holl fyfyrwyr sy'n derbyn eu canlyniadau arholiadau TGAU ac Safon Uwch/UG yr wythnos hon fod yn falch o'u llwyddiant, ac rwy'n eu llongyfarch ar eu cyflawniadau. Mae'r canlyniadau eithriadol hyn yn benllanw gwaith caled ac ymdrech sylweddol, ac maent wedi'u cyflawni yn erbyn cefndir o aflonyddwch ac ansicrwydd digynsail. Diolchaf i'r holl fyfyrwyr a staff am eu hymroddiad, ac yr wyf wrth fy modd, er gwaethaf yr amgylchiadau heriol eleni, fod y mwyafrif llethol o'n myfyrwyr wedi derbyn lleoedd yn y prifysgolion o'u dewis, neu brentisiaethau a chyflogaeth, a dymunaf bob llwyddiant iddynt yn y dyfodol. Hoffwn ddiolch hefyd i'r holl rieni a gwarcheidwaid a'r corff llywodraethu am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad parhaus yn ystod cyfnod anodd a heriol i bawb."

Dywedodd Owain Jones, Pennaeth Ysgol Gyfun Aberaeron: “Rydym yn hynod falch o waith ac ymdrechion ein myfyrwyr a hoffwn eu llongyfarch ar eu canlyniadau ardderchog. Er bod y ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn anarferol iawn, mae eu gwaith caled ynghyd â chefnogaeth athrawon a staff yr ysgol, rhieni a gofalwyr yn cael eu hadlewyrchu mewn canlyniadau haeddiannol. Dymunwn y gorau i’n holl ddisgyblion Safon Uwch boed yn astudio gradd mewn Prifysgol, yn dilyn prentisiaeth neu’n symud i fyd gwaith ac rydym yn gyffrous i groesawu canran uchel o’n disgyblion TGAU nôl i’r chweched dosbarth.”

Nododd Dr Rhodri Thomas, Pennaeth Ysgol Gyfun Penweddig: “Mae’n braf llongyfarch ein disgyblion ar eu llwyddiant ar ôl cyfnod mor heriol. Hoffwn ddiolch i bawb – disgyblion, staff a rhieni – am eu hymroddiad a’u hymdrechion dros y deunaw mis diwethaf wrth i ni gydweithio i sicrhau’r gorau i bawb. Trwy gydweithio a datblygu sgiliau newydd yn wyneb heriau digynsail mae pob un wedi llwyddo sicrhau graddau teilwng i’r disgyblion. Bydd canlyniadau yr wythnos hon yn galluogi ein disgyblion i gymryd y cam nesaf yn eu bywydau ac edrychwn ymlaen at weld llwyddiannau’r unigolion hyn yn y dyfodol. Edrychwn ymlaen at groesawu llawer o’r disgyblion TGAU nôl i’r chweched dosbarth ym mis Medi. “

Dywedodd Mair Hughes, Pennaeth Ysgol Gyfun Penglais: “Mae’n bleser llongyfarch ein disgyblion Blwyddyn 13 ar eu cyflawniadau nodedig. Maent wedi gweithio’n galed iawn mewn blwyddyn anodd ac yn gwbl haeddu eu graddau. Diolch i’r holl staff a rhieni sydd wedi cefnogi’r disgyblion a’u galluogi i wneud eu gorau. Dymunwn pob mwynhad a llwyddiant i’r disgyblion yn y dyfodol. Rydym yn falch iawn cael dathlu llwyddiannau disgyblion Blwyddyn 11. Aethant ati i astudio’n ddiwyd eleni, gan amlygu gwir ddycnwch ac uchelgais trwy gydol y flwyddyn. Llongyfarchiadau mawr i’r holl ddisgyblion. Edrychwn ymlaen at weld nifer yn dychwelyd i’r chweched dosbarth a dymunwn yn dda i eraill a fydd yn parhau â’u hastudiaethau mewn lleoliadau eraill.”

Nododd Robert Jenkins, Pennaeth Ysgol Bro Teifi: “Carwn longyfarch ein disgyblion ar eu canlyniadau eleni. Maent wedi parhau i lwyddo dros y cyfnod hwn gan elwa o gefnogaeth a chyngor rhagorol staff yr ysgol. Dymunir pob llwyddiant i’r disgyblion hynny sy’n symud ymlaen i brifysgol, coleg, prentisiaeth neu fyd gwaith ac edrychwn ymlaen at groesawu mwyafrif o Flwyddyn 11 yn ôl i’r Chweched Dosbarth ym mis Medi.”

Dywedodd Dorian Pugh, Pennaeth Ysgol Henry Richard: “Mae’n bleser llongyfarch ein disgyblion ar ganlyniadau TGAU gwych eleni. Mae’r disgyblion wedi gorfod dygymod â nifer o heriau ychwanegol wrth iddynt ddysgu o bell am gyfnodau yn ystod eu cyrsiau TGAU. Hoffwn ddiolch o waelod calon i’r disgyblion, staff a’r rhieni am y cydweithio arbennig i sicrhau bod y disgyblion yn cyrraedd eu llawn botensial. Dymunwn bob lwc i ddisgyblion blwyddyn 11 2021 wrth iddynt symud ymlaen i’r bennod nesaf boed yn addysg bellach neu’r byd gwaith.”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth: “Llongyfarchiadau gwresog a thwymgalon eto eleni i ddisgyblion Ceredigion ar eu llwyddiant yn eu cymwysterau Safon Uwch a TGAU. Er gwaetha’r anawsterau a achoswyd gan y pandemig, mae ein disgyblion wedi gweithio’n galed ac y mae’r canlyniadau’n brawf o’u hymdrechion diwyd. Bydd yr un gwerth a statws yn perthyn i ganlyniadau eleni, a dymunwn yn dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”

10/08/2021