Rydyn ni i gyd yn tueddu i greu mwy o wastraff cartref yr adeg hon o’r flwyddyn. Ond, a allen ni i gyd fod yn gwneud mwy i leihau faint o wastraff rydyn ni’n ei greu?

Mae’n anodd peidio â mynd dros ben llestri wrth siopa am anrhegion, bwyd, papur lapio, cardiau cyfarch a’r eitemau ‘hanfodol’ eraill yr ydym yn teimlo bod yn rhaid i ni eu prynu yn y cyfnod cyn y Nadolig.

Os ydych chi, fel llawer ohonom, am wneud gwahaniaeth a lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd, efallai yr hoffech roi cynnig ar rai o’r awgrymiadau hyn:

1. Gwnewch eich calendr adfent eich hun neu buddsoddwch mewn un y gellir ei ailddefnyddio.

Gellir ailgylchu’r cardbord a’r plastig o’ch calendr adfent yn eich bag clir. Os oes rhannau o’ch calendr yn cynnwys deunydd â sawl haen sy’n cynnwys plastig a ffoil, ni ellir ailgylchu’r rhain; rhowch y rhain yn eich bag du gyda’ch gwastraff na ellir ei ailgylchu.

2. Cadwch draw oddi wrth setiau anrhegion sydd â llawer o ddeunydd pecynnu

Gall setiau anrhegion fod yn dwyllodrus gan eu bod yn aml yn cynnwys dim ond ychydig o gynhyrchion sydd wedi'u cuddio mewn sawl haen o ddeunydd pacio a fydd yn cael eu taflu'n syth ar ôl eu dadlapio. Beth am brynu'r eitemau ar wahân neu chwilio am y cynhyrchion mewn cynwysyddion y gellir eu hailddefnyddio.

Cofiwch, gall ffoil glân, cardbord, papur a'r rhan fwyaf o fathau o blastig i gyd fynd yn eich bag ailgylchu clir sy’n cael ei gasglu’n wythnosol.

3. Cynlluniwch brydau bwyd ymlaen llaw.

Mae miloedd o dunelli o fwyd yn mynd i wastraff yn y DU, yn enwedig yn ystod cyfnod yr ŵyl, felly gadewch i ni i gyd geisio bod ychydig yn fwy trefnus, ac arbed arian ar yr un pryd. Ceisiwch beidio â phrynu’n fyrbwyll, gwiriwch y dyddiadau defnyddio, ac ystyriwch rewi bwyd dros ben.

Rydym yn casglu eich gwastraff bwyd bob wythnos. Dim ond mewn leinwyr gwastraff bwyd wedi’u clymu y tu mewn i'r cynhwysydd gwastraff bwyd mawr y dylid cyflwyno gwastraff bwyd, ac rydym yn darparu’r ddau o’r rhain. Gellir ailgylchu'r holl wastraff bwyd heb ei becynnu, boed wedi'i goginio neu heb ei goginio, yn eich cynhwysydd gwastraff bwyd.

Gall un llond lori o wastraff bwyd gynhyrchu digon o drydan i bweru 20,000 teledu am awr – mae’n ddigon posib y gallai’r rhaglen Nadoligaidd rydych yn ei wylio ar y teledu gael ei bweru gan yr holl sbrowts na chawsant eu bwyta!

4. Iechyd da!

P’un a yw’n goctêl, yn foctêl, neu’n botel o’ch hoff ddiod, peidiwch â rhoi jariau a photeli gwydr yn y bag du gyda’ch gwastraff na ellir ei ailgylchu – rhowch y rhain yn eich bocs gwydr yn lle. Rydyn ni’n casglu’r rhain bob tair wythnos.

5. Gellir ailgylchu rhai mathau o bapur lapio, ond nid oes modd ailgylchu rhai eraill. Ni ellir ailgylchu’r mathau sgleiniog sy’n dueddol o fynd yn ôl i’w siâp gwreiddiol. Mae papur brown gyda chortyn yn ddewis amgen ‘chic’ i bapur lapio a brynir o’r siop, a gellir ei ailddefnyddio a’i ailgylchu hefyd.

Yn anochel, bydd llawer o wastraff i chi ddelio ag ef yn ystod tymor yr ŵyl. Ceisiwch ailgylchu cymaint â phosibl, neu cadwch bethau ar gyfer y flwyddyn nesaf os gallwch eu hailddefnyddio. Os nad ydych yn siŵr sut i gael gwared ar rai eitemau cartref, mae gennym A-Y defnyddiol o eitemau ar ein gwefan, ynghyd â gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd i'ch gwastraff ailgylchu ar ôl i ni ei gasglu: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/biniau-ac-ailgylchu/a-y-gwastraff/

 

01/12/2021