Ers sawl blwyddyn mae ysgolion Ceredigion wedi bod yn cystadlu yng nghystadleuaeth Cwis Dim Clem ac ar ddydd Mercher 19eg o Fai fe wnaeth Ysgol Llechryd ddod i’r brig yn rownd Ceredigion o’r gystadleuaeth a drefnwyd gan Cered: Menter Iaith Ceredigion.

Dyma’r tro cyntaf i Ysgol Llechryd ddod yn fuddugol ac fe fyddan nhw’n cynrychioli Ceredigion yn erbyn pencampwyr siroedd eraill Cymru yn y rownd derfynol dechrau Mehefin. Aelodau’r tîm llwyddiannus oedd: Olivia Kettley, Catryn Harries, Bethan Hutton ac Alisha Morse.

Eleni fe fydd y rownd derfynol yn cwmpasu mwy o siroedd Cymru nag erioed o’r blaen a hynny o ganlyniad i’r shifft tuag at gynnal gweithgareddau yn rhithiol oherwydd Covid-19. Gan ddefnyddio platfformau gwe-gynadledda mae wedi cynnig ffordd o barhau gyda’r gystadleuaeth yn ddiogel ac osgoi unrhyw gostau teithio i’r ysgolion.

Mae Cwis Dim Clem yn gystadleuaeth gwis sydd yn cael ei gydlynu gan y Mentrau Iaith ac mae’n gweld plant blwyddyn 6 yn ateb pob math o gwestiynau gwybodaeth cyffredinol ar Gymru. Nod y gystadleuaeth yw i gefnogi gwaith yr ysgolion gyda’r Siarter Iaith ac i godi ymwybyddiaeth o waith y Mentrau Iaith.

Dywedodd Steffan Rees, Swyddog Datblygu Cymunedol Cered a’r Cwisfeistr: “Roedd y gystadleuaeth eleni yn un dda dros ben gyda phob un o’r 13 ysgol yn sgorio’n dda iawn mewn cwis digon heriol. Mae’n brawf o’r gwaith clodwiw mae ysgolion Ceredigion yn gwneud i hyrwyddo’r Gymraeg a Chymreictod hyd yn oed dros y flwyddyn anodd yma.”

Dyddiad y rownd derfynol yw Dydd Mercher, 9 Mehefin.

 

28/05/2021