“Cwmni, cyfeillgarwch a chwerthin wyneb yn wyneb” yw rhai o’r pethau y mae aelodau o gymdeithas Hwyl a Hamdden Theatr Felinfach yn ei ddyheu amdano ers i bopeth ddod i stop yn 2020.

Mae cymdeithas Hwyl a Hamdden yn grŵp ar gyfer pobl hŷn sy’n cwrdd yn Theatr Felinfach. “Mae’r grŵp yn bwysig iawn i’r theatr” medd Dwynwen Lloyd Llywelyn, Pennaeth Theatr Felinfach “maent yn griw bywiog, diwylliedig sy’n dod at ei gilydd i drafod, i ddysgu ac maent yn gwmni gwych i’w gilydd ac i ninnau.  Ar ben hynny, maent yn ffynhonnell wych o wybodaeth ac ymchwil”.

Gŵyl gelfyddydol flynyddol yw Gwanwyn i bobl dros 50 oed sy’n hyrwyddo manteision iechyd y celfyddydau i bobl hŷn. Mae’n darparu grantiau i grwpiau ledled Cymru i gynnal digwyddiadau yn ystod mis Mai, sy’n rhoi cyfle i bobl hŷn gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol a chreadigol.

“Yn 2020 roedden ni wedi cyflwyno cais llwyddiannus i gronfa Gŵyl y Gwanwyn, i gynnal prosiect celf gyda Hwyl a Hamdden a’r artist Elin Vaughan Crowley o Fachynlleth” dywedodd Rhian Dafydd, Rheolwr Busnes a Marchnata Theatr Felinfach. “Er i bopeth ddod i stop yn 2020, roeddem yn benderfynol o addasu’r prosiect gwreiddiol er mwyn cydweithio gydag Elin, ac aelodau Hwyl a Hamdden yn 2021”.

Un o brif ofidiau tȋm y theatr yn ystod y cyfnod clo oedd pa mor ynysig oedd pobl yn gallu teimlo. Felly crëwyd “Helo, Hwyl a Hamdden” fel prosiect amgen ar gyfer dathlu Gŵyl y Gwanwyn a chreu gwaith celf fyddai’n gerbyd i ffrindiau Hwyl a Hamdden gadw cyswllt â’i gilydd. Rhian fu’n cydlynu’r prosiect a chasglodd ystod eang o ymatebion aelodau’r grŵp i gwestiynau amrywiol gyda’r nod o gywain gwybodaeth ac ail greu naws a theimlad y grŵp. Gofynnwyd hefyd iddynt ystyried yr hyn oedd yn bwysig iddynt a beth oeddent yn ei gael o gyfarfod yn wythnosol gyda’u cyd-aelodau yn eu cartref ysbrydol.

O’r ymatebion, aeth Elin ati i greu pedair delwedd oedd yn dehongli ysbryd, naws a theimladau aelodau Hwyl a Hamdden. Cafodd y pedwar delwedd eu hargraffu ar ffurf cardiau post a derbyniodd pob aelod set o’r cardiau post a chyflenwad o stampiau er mwyn iddynt ddanfon gair at eu cyd-aelodau a ffrindiau o’r grŵp.

Medd Elin Vaughan Crowley, “Roedd y prosiect hwn yn swnio’n fendigedig a dwi wir wedi mwynhau gweithio arno. Roedd ymatebion y cwestiynau yn hyfryd a dwi’n gobeithio gallaf ddod i gwrdd â phawb rhyw ddydd yn y dyfodol”.

Ategodd Rhian “I nifer o’r aelodau, mae cyfarfod wythnosol Hwyl a Hamdden yn rhoi strwythur i’r wythnos ac i eraill yn gyswllt a chwmnïaeth hollbwysig mewn wythnos a all fod fel arall yn hir ac unig”.

Bu aelodau Hwyl a Hamdden yn cyfathrebu â’i gilydd yn ystod mis Mai trwy gyfrwng y cardiau post gan anfon at aelodau eraill yn ogystal â derbyn rhai yn ôl. “Ffordd wych o gadw cysylltiad”… medd Margaret Morgan un o aelodau’r grŵp.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet ar gyfer Diwylliant, “Hyfryd yw gweld trigolion Ceredigion dros 50 oed yn mwynhau Gŵyl y Gwanwyn trwy waith Elin. Dyma gyfle gwych i atgyfnerthu’r teimlad o gyswllt a pherthyn trwy gelf, creadigrwydd a chardiau post.”

Mae Gwanwyn yn ŵyl genedlaethol sy’n para mis, a gynhelir ledled Cymru ym mis Mai bob blwyddyn i ddathlu creadigrwydd ymhlith pobl hŷn. Dechreuodd yr ŵyl yn 2006 ac fe’i cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.

11/06/2021