Cadarnhaodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru achos o Ffliw Adar Pathogenig Iawn (HPAI) ar 01 Tachwedd 2021 mewn haid iard gefn fach o ieir yn Wrecsam. Roedd hyn yn dilyn achos mewn canolfan achub adar gwyllt yn Swydd Gaerwrangon ar 27 Hydref 2021.

Paratowyd asesiad risg yn sgil y canfyddiadau hyn ac, ar 01 Tachwedd, cynyddodd lefel risg y DU ar gyfer ymlediad y clefyd mewn adar gwyllt o ganolig i uchel. Yn ychwanegol at hyn, cynyddodd y lefel risg ar gyfer dofednod o isel i ganolig, lle bo’r bioddiogelwch yn annigonol. Mae mesurau bioddiogelwch effeithiol yn chwarae rhan annatod yn y gwaith o helpu i leihau’r risg hwn.

Parth Atal

Datganwyd bod Parth Atal Ffliw Adar ar gyfer Cymru gyfan wedi’i roi ar waith o dan Erthygl 6 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) 2006, a hynny fel mesur rhagofalus mewn ymateb i gynyddu lefel y risg ac mewn ymgais i liniaru’r risg lle gallai adar gwyllt heintio dofednod ac adar dof eraill. Mae’r Parth Atal yn weithredol o 17:00 ar 03 Tachwedd 2021.

Oddi ar 00:01 ar 08 Tachwedd 2021, ni chaniateir casgliad o ddofednod, galliformes nac anseriforme. Mae adar galliforme yn cynnwys ffesantod, petris, soflieir, ieir, tyrcwn ac ieir gini. Mae adar anseriforme yn cynnwys hwyaid, gwyddau ac elyrch. Gweler y canllawiau canlynol am ragor o wybodaeth: trwyddedau casgliadau o adar.

Bydd yn ofynnol i holl geidwaid dofednod ac adar dof eraill, ni waeth sut y cânt eu cadw, roi camau priodol ac ymarferol ar waith yn unol â’r Parth Atal, gan gynnwys:

  • Sicrhau nad yw ardaloedd lle cedwir adar yn denu adar gwyllt, er enghraifft trwy rwydo pyllau gerllaw a gwaredu â ffynonellau bwyd ar gyfer adar gwyllt;
  • Rhoi bwyd a dŵr i adar mewn ardaloedd caeedig er mwyn peidio â denu adar gwyllt;
  • Cyfyngu ar fynd a dod pobl i mewn ac allan o ardaloedd lle cedwir adar;
  • Glanhau a diheintio esgidiau a chadw’r ardaloedd lle cedwir adar yn lân ac yn daclus;
  • Cyfyngu ar unrhyw halogiad cyfredol trwy lanhau a diheintio ardaloedd concrid, a ffensio ardaloedd gwlyb neu gorslyd.
  • Cadw hwyaid a gwyddau dof ar wahân oddi wrth ddofednod eraill.

Bydd hefyd yn ofynnol i geidwaid sydd â mwy na 500 o adar i gymryd mesurau bioddiogelwch ychwanegol, gan gynnwys cyfyngu ar fynediad pobl nad ydynt yn hanfodol, newid dillad ac esgidiau cyn mynd i mewn i'r ardaloedd lle cedwir adar a glanhau a diheintio cerbydau.

Bydd y Parth Atal Ffliw Adar yn parhau mewn grym hyd nes y bydd y gostyngiad yn lefel y risg yn awgrymu nad yw’n ofynnol mwyach. Bydd y Parth yn cael ei adolygu’n rheolaidd.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion sydd â chyfrifoldeb am Gyllid a Gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd: “Rydym yn annog pawb sy’n cadw dofednod, hyd yn oed y rheiny sydd â llai na 50 o adar, i gofrestru ar y Gofrestr Ddofednod. Bydd hyn yn sicrhau y gellir cysylltu â chi yn uniongyrchol, drwy e-bost neu neges destun, os bydd achosion o’r ffliw adar, gan eich galluogi i amddiffyn eich haid o adar ar y cyfle cyntaf.”

Gwybodaeth bellach

Mae’r ddolen ganlynol yn cynnwys canllawiau ar sut i gofrestru eich haid o adar: cofrestru adar a dofednod.

Bydd gwybodaeth am ofynion, canllawiau a datblygiadau diweddaraf y Parth Atal Ffliw’r Adar ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

09/11/2021