Plediodd cwpl o Aberaeron yn euog i droseddau’n ymwneud â chyfyngiadau’r coronafeirws a throseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus cyn dechrau treial a drefnwyd yn Llys Ynadon Aberystwyth ddydd Mawrth 18 Mai 2021.

Cyhuddwyd David James a Meinir Bowen o Westy’r Castell, Heol y Farchnad, Aberaeron, o droseddau a ddigwyddodd ar noson 4 Rhagfyr 2020 ar ôl i Swyddogion Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion a Swyddog o Heddlu Dyfed Powys archwilio eu gwesty y noson honno ar ôl clywed lleisiau meddw o’r tu mewn i’r adeilad.

Clywodd y llys bod y swyddogion, ar ôl cael caniatâd i fynd i mewn i far y gwesty, wedi wynebu camdriniaeth lafar gan David James. Roedd yn ymddangos bod y cwpl yn feddw a nododd swyddogion, ar ôl edrych ar deledu cylch cyfyng yr adeilad, fod dyn arall wedi bod yn bresennol wrth y bar gyda’r cwpl ymlaen llaw.

Daeth David James yn fwyfwy anghydweithredol a pharhaodd i ymddwyn yn ymosodol tuag at y swyddogion y tu allan i'r adeilad. Recordiwyd lluniau o'r teledu cylch cyfyng a'r ymddygiad ymosodol ar gamerâu corff swyddogion y Cyngor ac fe’u cyflwynwyd fel tystiolaeth yn y llys.

Plediodd David James yn euog i dri chyhuddiad o droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus yn groes i adran 4A o Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986, rhwystro swyddogion rhag arfer eu swyddogaethau, a chaniatáu i alcohol gael ei gyflenwi pan na chaniateid hynny. Plediodd Meinir Bowen yn euog i dri chyhuddiad o droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus, unwaith eto yn groes i adran 4A o Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986.

Dywedodd bargyfreithiwr y cwpl, Matt Jackson, wrth liniaru fod hwn wedi bod yn gyfnod anodd iawn i'r cwpl a'u bod yn llawn edifeirwch.

Dywedodd Cadeirydd yr Ynadon wrth y cwpl fod hwn yn ddigwyddiad brawychus a diangen na ddylai'r swyddogion fod wedi gorfod ei wynebu yn ystod eu diwrnod gwaith arferol. Cafodd Bowen ddirwy o £450 am bob un o'r tair trosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus, gorchymyn i dalu £300 o gostau, gordal o £135, ac iawndal o £50 i bob un o'r tri swyddog. Cafodd James ddirwy o £1500 am y drosedd rhwystro, £500 am bob un o'r tair trosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus, a £1000 am weini alcohol pan na chaniateid hynny. Gorchmynnwyd iddo dalu £300 o gostau, gordal o £190, ac iawndal o £50 i bob un o'r tri swyddog; dirwy gyfan o £6,575.

Crynhodd y Cadeirydd drwy ddweud bod pawb wedi bod o dan lawer o bwysau yn ddiweddar, ond dim ond y diffynyddion a roddodd eu hunain mewn sefyllfa lle cawsant eu hunain yn y llys.

Dywedodd Rhingyll yr Heddlu Richard Marshall: "Rydym yn ddiolchgar i'r Llys am gefnogi'r gwaith rhagorol a wnaed gan Swyddogion y Cyngor a'r Heddlu. Nid oes neb yn mynd i'r gwaith i gael ei gam-drin. Mae’r Drefn Gyhoeddus, Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trwyddedu Alcohol a Diogelwch y Cyhoedd yn feysydd allweddol o waith ar y cyd i'r Cyngor a'r Heddlu. Drwy gydol cyfnod Covid-19 rydym wedi cynnal ymweliadau ar y cyd â mangreoedd ledled y Sir a bydd y rhain yn parhau dros yr Haf."

20/05/2021