Mae Cyngor Sir Ceredigion yn parhau i ymdrechu i ostwng allyriadau carbon a sicrhau carbon sero-net erbyn 2030.

Cyflwynwyd Adolygiad Blynyddol o’r Cynllun Rheoli Carbon ar gyfer 2017-2023 i'r Cabinet ar 2 Tachwedd 2021 a oedd yn amlygu’r cyraeddiadau blynyddol.

Mae’r cynllun yn cynnwys targedau ar gyfer gostwng allyriadau CO2 sy’n deillio o ddefnydd ynni, tanwydd a milltiroedd busnes. Mae’n nodi’r prif feysydd o ran defnydd ynni ac yn cynnwys strategaeth y Cyngor ar gyfer gostwng allyriadau carbon o leiaf 15% rhwng 2017/18 a diwedd 2022/23.

Roedd gwir allyriadau Ceredigion yn ystod 2020/2021 yn 6,161 t/CO2, sy’n gyfwerth â gostyngiad o 1,478t neu 19.35% mewn CO2 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, a 2,488 t/CO2 o gymharu â llinell sylfaen 2017/18 y cynllun cyfredol. Mae hyn yn gyfwerth â gostyngiad o 28.77% dros gyfnod y Cynllun cyfredol, sy’n rhagori ar y targed o 15% a osodwyd yn y cynllun pum mlynedd hyd at 2022/23.

Oddi ar 2007/08, pan osodwyd y llinell sylfaen ar gyfer y Cynllun Rheoli Carbon cyntaf, mae allyriadau Ceredigion wedi gostwng fesul 9,659 tunnell o CO2, sy’n gyfwerth â gostyngiad o 61%.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ac Eiriolwr dros Gynaliadwyedd: “Gyda chynhadledd COP 26 yn cael ei chynnal yn Glasgow nid oes wythnos well i gyflwyno’r adroddiad diweddaraf ar waith Ceredigion i leihau allyriadau carbon. Mae’n bwysig nodi ein bod ar y trywydd iawn i sicrhau gostyngiad o tua 14% yn ein hallyriadau carbon cyn i COVID-19 daro. Mae’r adroddiad hefyd yn dangos ein sefyllfa ddiweddaraf ar ôl tua 18 mis o COVID-19 – rydym wedi sicrhau gostyngiad o tua 28.77% yn allyriadau carbon y Cyngor o gymharu â llinell Sylfaen y flwyddyn 2017/18. Felly mae COVID-19 wedi dyblu’r hyn a oedd yn ffigwr da i ddechrau o ran gostwng allyriadau carbon y Cyngor. Yr hyn sy’n bwysig yw dysgu o’r gwersi a gyflwynir gan y ffigurau hyn. Rhaid i ni ddysgu pa ostyngiadau y gallwn ddisgwyl, yn rhesymol, iddynt wrthdroi ychydig a pha rhai y gallwn eu gwneud yn barhaol drwy newid y ffordd yr ydym yn gweithio.”

Mae Cynllun Rheoli Carbon y Cyngor a’r Cynllun Gweithredu Sero-Net yn cefnogi Blaenoriaethau Corfforaethol yr Awdurdod Lleol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

02/11/2021