Mae yna alw am aelodau newydd i ymuno â fforwm a fydd yn cynghori ynghylch mynediad cyhoeddus ledled Ceredigion.

Mae Fforwm Mynediad Lleol Ceredigion wedi cyrraedd diwedd ei gyfnod tair blynedd diweddaraf ac mae trefniadau ar waith i benodi aelodau newydd ar gyfer 2022-2025.

Mae’r Fforwm yn gyfrifol am gynghori’r Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a chyrff eraill ynghylch materion sy’n ymwneud â Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Deddf CROW). Mae hyn yn cynnwys hawliau tramwy cyhoeddus a hawl mynediad i dir agored a thir comin cofrestredig, gan gynnwys marchogaeth, beicio, gyrru oddi ar y ffordd a mynediad ar droed.

Bydd y Fforwm yn gweithio ar sail rhaglen waith flynyddol a chynhelir pedwar cyfarfod llawn o’r fforwm fel arfer mewn blwyddyn, a hynny’n ychwanegol at is-bwyllgorau eraill.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet ar gyfer yr Economi ac Adfywio: “Mae Cyngor Sir Ceredigion yn chwilio am aelodau newydd ar hyn o bryd i ymuno â’r Fforwm Mynediad Lleol ar gyfer y dair blynedd nesaf. Os ydych chi’n unigolyn sy’n barod i chwarae rhan ymhob agwedd o waith y Fforwm ac yn gallu helpu i gynghori ynghylch gwella mynediad cyhoeddus i dir ar gyfer hamdden yn yr awyr agored a mwynhad o’r ardal, yna gallech wneud cyfraniad gwerthfawr i waith y fforwm.”

Os ydych yn unigolyn sydd â diddordeb mewn archwilio’r awyr agored arbennig yng Ngheredigion, yn ymroddedig i wella mynediad cyhoeddus ac yn barod i ymrwymo i'r Fforwm Mynediad Lleol, yna ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth: Fforwm Mynediad Lleol Ceredigion

Gall ymgeiswyr sydd â diddordeb ymgeisio i gael eu hystyried am aelodaeth hyd at 04 Ionawr 2022.

21/10/2021