I nodi Diwrnod y Cadoediad a Sul y Cofio eleni, rydym wedi bod yn chwifio'r baneri’n uchel a byddwn yn goleuo adeiladau'r Cyngor yn goch bob nos tan ddydd Sul fel arwydd o gofio.
Ddydd Sul y Cofio 14 Tachwedd, bydd rhai ffyrdd ar gau dros dro yn Llanbedr Pont Steffan ac yn Aberteifi fel y gellir cynnal y gwasanaethau Cofio yn ddiogel o amgylch Cofeb Ryfel pob tref. Os byddwch yn mynd i unrhyw wasanaethau, cofiwch gadw pellter cymdeithasol a dilyn y canllawiau diweddaraf mewn perthynas â COVID-19.
Y Cynghorydd Paul Hinge yw Cadeirydd y Cyngor ac Eiriolwr y Lluoedd Arfog ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd: “Er bod y rhan fwyaf o’r cyfyngiadau bellach wedi’u llacio ac rydym yn ffodus o allu cwrdd a dangos parch gyda’n gilydd, mae’n rhaid i ni gofio’r mesurau diogelwch COVID-19 sylfaenol i gadw pawb yn ddiogel. Gallwn ddal i gofio'r aberth a wnaed gan genedlaethau'r gorffennol a thalu teyrnged i'r rhai a gollodd eu bywydau boed hynny mewn gwasanaeth cyhoeddus neu yng nghysur ein cartref ein hunain."
Helpwch i gadw Ceredigion yn ddiogel:
- Ewch am frechiad
- Trefnwch brawf a hunanynyswch os oes gennych symptomau
- Mae bod yn yr awyr agored yn fwy diogel na bod dan do
- Cadwch eich pellter pan allwch chi
- Golchwch eich dwylo
- Gwisgwch orchudd wyneb
Gadewch inni gofio a thalu teyrnged yn ddiogel ac yn gyfrifol eleni.
Os ydych yn cynnal unrhyw weithgaredd neu ddigwyddiad yng Ngheredigion, ewch i'n tudalen 'Gweithgareddau a Digwyddiadau' lle gallwch gael gwybodaeth ac arweiniad ar sut i wneud hynny’n ddiogel: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/coronafeirws-covid-19/gweithgareddau-a-digwyddiadau .
10/11/2021