Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer Ardal Dyfed Powys yw Dafydd Llywelyn, Plaid Cymru.

Cynhaliwyd yr etholiad ddydd Iau, 06 Mai 2021, yr un pryd ag etholiadau Senedd Cymru.

Er mwyn dilyn holl reoliadau’r coronafeirws, cynhaliwyd y cyfrif ar gyfer yr etholiad hwn ddydd Sul, 09 Mai 2021, a hynny yng Ngheredigion, yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen Etholiadau Cyngor Sir Ceredigion: www.ceredigion.gov.uk/etholiadcomisiynyddheddluathroseddu neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

09/05/2021