Bydd Ceredigion yn cefnogi ac yn dathlu’r Diwrnod Plant Byd-eang a gynhelir y penwythnos hwn.

Sefydlwyd Diwrnod Plant y Byd gyntaf yn 1954 fel Diwrnod Plant Byd-eang ac fe’i dathlir ar 20 Tachwedd bob blwyddyn i hyrwyddo undod rhyngwladol, ymwybyddiaeth ymhlith plant ledled y byd, a gwella lles plant. (Unicef, 2021).

Mae 20 Tachwedd yn ddyddiad pwysig gan mai hwn yw'r dyddiad yn 1959 pan fabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y Datganiad Hawliau'r Plentyn. Dyma hefyd y dyddiad yn 1989 pan fabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn. (Unicef, 2021).

Eleni, bydd Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn codi ymwybyddiaeth o Hawliau Plant yn y cyfnod cyn Diwrnod Plant Byd-eang trwy rannu gwybodaeth a chlipiau fideo ar gyfryngau cymdeithasol @GICeredigionYS. Ymunwch â ni i ddathlu popeth sy'n wych am blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth: “Mae buddsoddi yn ein dyfodol yn golygu buddsoddi yn ein plant – a dyna pam mae'r Cenhedloedd Unedig wedi dynodi 20 Tachwedd yn Ddiwrnod Plant Byd-eang. Rydym yn falch o wreiddio’r CCUHP yn ein gwaith yng Ngheredigion, ac mae Diwrnod Plant Byd-eang yn gyfle arall i ni gydnabod ein plant a'n pobl ifanc a'u hawliau."

Ychwanegodd Poppy Evans, Aelod Seneddol Ifanc Senedd Ieuenctid Prydain dros Geredigion: “Mae Diwrnod Plant Byd-eang yn gyfle gwych i ni fel pobl ifanc Ceredigion ddysgu mwy am ein hawliau a darganfod sut mae'r hawliau hyn yn berthnasol i bob agwedd o'n bywydau.”

Dilynwch @GICeredigionYS ar y cyfryngau cymdeithasol i ddysgu mwy a chymryd rhan.

17/11/2021