Yn ystod cyfarfod o’r Cabinet a gynhaliwyd ar 01 Rhagfyr 2021, cytunwyd mai Canolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan fyddai’r lleoliad ar gyfer Canolfan Lles gyntaf y Cyngor yn y sir.

Bydd gwaith a buddsoddiad sylweddol yn cael ei wneud i'r Ganolfan Hamdden a fydd yn gwella’r cyfleuster a’r adnoddau am flynyddoedd i ddod.

Wrth i'r cynlluniau a’r cynigion ddatblygu ar gyfer y Ganolfan Lles dros y misoedd nesaf, byddwn yn eu rhannu â defnyddwyr y gwasanaeth a thrigolion Ceredigion.

Mae penseiri wedi cael eu penodi i oruchwylio’r prosiect a bydd y gwaith nawr yn dechrau ar gynllun arfaethedig y cyfleuster. Bydd y cynllun yn seiliedig ar ad-drefnu’r cyfleuster presennol er mwyn darparu Canolfan Lles a fydd yn gallu cynnig amrywiaeth ehangach o Wasanaethau Gydol Oes, gan gynnwys Gwasanaethau Hamdden, i drigolion ardal Llanbedr Pont Steffan a chanol y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion: “Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygiad y Ganolfan Lles newydd yn Llanbedr Pont Steffan. Bydd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i'r trigolion yn eu cymuned leol. Daw’r datblygiad hwn ar adeg sydd i'w groesawu, a hynny wrth i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion gynnal Asesiad o Lesiant Lleol er mwyn canfod gwybodaeth am lesiant pobl a chymunedau lleol nawr ac yn y dyfodol.”

Bydd Canolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan ar gau tra bo’r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo, ond bydd darpariaeth amgen ar gael i holl ddefnyddwyr y gwasanaeth a’r clybiau yn ystod y cyfnod hwn.

Edrychwn ymlaen at rannu’r cynlluniau amgen hynny â chi yn ystod yr wythnosau nesaf cyn gynted ag y bydd y trefniadau wedi cael eu cwblhau.

02/09/2021