Mae data calonogol iawn wedi dod i’r amlwg o ran nifer y ceisiadau a wnaed yng Ngheredigion ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

Mae’r data’n awgrymu cynnydd enfawr yn nifer y ceisiadau a dderbyniwyd ac a broseswyd gan unigolion sy’n byw ac yn gweithio yng Ngheredigion. Mae ffynonellau'n dangos bod Ceredigion wedi cwblhau tua 2,110 o geisiadau (ffynhonnell: Y Swyddfa Gartref, ffigurau'n gywir hyd at 31 Rhagfyr 2020). Mae hyn yn newyddion cadarnhaol iawn, ond mae'n bwysig iawn nodi bod gwaith i'w wneud o hyd.

Yr hyn yr ydym yn ei wneud fel Awdurdod Lleol:

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi chwarae rhan weithredol yn y gwaith o gefnogi a hyrwyddo’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE drwy rannu'r wybodaeth ddiweddaraf â'r cyhoedd yn rheolaidd ers sawl mis.

Gyda'r dyddiad cau yn agosáu, ni fu erioed yn bwysicach i bob un ohonom gael eglurder ar y cynllun a sicrhau bod dinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy) a'r Swistir yn ymgeisio cyn gynted â phosibl a chyn y dyddiad cau, sef 30 Mehefin 2021.

Ffurfiodd Cyngor Sir Ceredigion grŵp llywio pwrpasol, sy'n cynnwys cynrychiolwyr amrywiol o wasanaethau ledled y cyngor, gan gynnwys Addysg, Tai, Gwasanaethau Cymdeithasol, Cydlyniant Cymunedol a Chyfathrebu. Diben y grŵp hwn yw rhannu arbenigedd, gan gydweithio i roi camau gweithredu perthnasol ar waith er mwyn hyrwyddo'r cynllun gymaint â phosibl i drigolion Ceredigion.  

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Rydym wrth ein bodd o glywed bod llawer o'n dinasyddion o’r UE sy'n byw ac yn gweithio yng Ngheredigion wedi gwneud cais llwyddiannus i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Mae'n hollbwysig bod pob preswylydd yn sylweddoli'r rhan bwysig y mae'n ei chwarae yn ein sir, yn ogystal â chymaint y mae’n cael ei werthfawrogi a chymaint o groeso sydd iddo. Gobeithiwn y bydd y rheini sydd eto i wneud cais yn gwneud hynny cyn gynted â phosibl.”

Mae gan bob un ohonom ddyletswydd ddinesig i sicrhau bod ein cyfeillion, ein perthnasau, ein cymdogion, ein cyd-weithwyr, ein cyflogeion a’n cymdeithion o’r UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, a'r Swistir yn gwbl ymwybodol o’r angen i wneud cais a phwysigrwydd gwneud hynny. Nid yw'r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yn ddewisol, ac mae’n rhaid i’r holl ddinasyddion yr effeithir arnynt wneud cais (yr unig eithriad yw unigolion o Weriniaeth Iwerddon).

Pwysigrwydd gwneud cais:

Mae'n bwysig dros ben bod pawb y mae angen iddynt wneud cais yn gwneud hynny cyn gynted â phosibl. Nid yw effeithiau peidio â gwneud cais yn gwbl hysbys ar hyn o bryd, ond mae'n amlwg bod unigolion yn wynebu'r risg o golli eu hawliau parhaus i breswylio yn y DU a mynediad at wasanaethau drwy oedi neu beidio â gwneud cais.

I wneud cais am y cynllun, ewch i wefan Llywodraeth y DU.

I gael cymorth, cyngor a chael eich cyfeirio at sefydliadau sy'n gallu cynorthwyo gyda cheisiadau, ewch i wefan EUSS Cymru.

09/03/2021