Mae Cynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion wedi cytuno ar ddatganiad fydd yn anelu at sicrhau amrywiaeth mewn democratiaeth wrth edrych ymlaen at yr etholiadau lleol ym mis Mai 2022.

Cymeradwywyd y datganiad a luniwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mewn cyfarfod o’r Cyngor a gynhaliwyd yn rhithiol ddydd Iau 23 Medi 2021.

Nodwyd bod y rhwystrau sy’n wynebu pobl rhag dod yn Gynghorwyr yn cynnwys ymrwymiad amser ac amseroedd cyfarfod; diwylliant gwleidyddol a sefydliadol; gofal plant a chyfrifoldebau gofalu eraill; beirniadaeth gyhoeddus a cham-drin ar-lein; cydnabyddiaeth ariannol ac effaith ar gyflogaeth; a diffyg modelau rolau amrywiol.

Er mwyn mynd i’r afael â hynny, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i hybu amrywiaeth yn y sefydliad ac wedi rhoi camau gweithredu ar waith yn lleol.

Mae’r camau hyn yn cynnwys creu canllaw ar gyfer darpar ymgeiswyr; ymgysylltu â phobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor i'w hannog i gofrestru i bleidleisio; galluogi cyfarfodydd hybrid i gael eu cynnal; darlledu cyfarfodydd neu alluogi pobl i ymuno â chyfarfodydd o bell; cynnal arolwg o amserau cyfarfodydd; sicrhau mynediad at wasanaeth Cwnsela'r Cyngor; a chyflwyno rhaglen Gynefino Aelodau yn dilyn yr Etholiadau ym mis Mai.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae sicrhau amrywiaeth mewn democratiaeth leol yn hollbwysig i wead a hunaniaeth y sir. Rydym yn falch o gael cytundeb i’r datganiad amrywiaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac rydym eisoes wedi rhoi camau ar waith i liniaru unrhyw rwystrau a all wynebu pobl rhag dod yn aelodau etholedig. Mae sicrhau amrywiaeth lleisiau yn gwbl greiddiol i gynnal democratiaeth iach a ffyniannus yng Ngheredigion.”

Mae’r datganiad amrywiaeth yn cyd-fynd â Chynllun Cydraddoldeb Strategol Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer 2020-24, sef ‘Ceredigion Teg a Chyfartal.’

 

23/09/2021