I gydnabod gwaith pwysig y sector gofal cymdeithasol ac effaith pandemig Covid ar ddarparwyr gofal cymdeithasol a'u staff, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi sicrhau bod rhaglen o sesiynau cymorth iechyd meddwl a lles ar gael.

Mae’r rhaglen yn cynnwys Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl a Lles, Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Oedolion ac Ieuenctid) a hefyd yn cynnig sesiynau cymorth wedi’u hwyluso.

Bydd y rhaglen o ddigwyddiadau yn rhedeg rhwng mis Rhagfyr a mis Mawrth 2022.

Gall unrhyw ddarparwr gofal cymdeithasol, gofalwr neu gynorthwyydd personol ofyn am fwy o wybodaeth neu archebu lle ar y sesiynau hyn drwy anfon e-bost at Dysgu@ceredigion.gov.uk

29/11/2021