Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cefnogi Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau drwy daflu goleuni ar gyfraniad ei brentisiaid. Mae'r dathliad wythnos o hyd blynyddol yn parhau tan 14 Chwefror ac yn tynnu sylw at sut mae prentisiaethau yn helpu unigolion i ddatblygu gyrfa werth chweil ac yn galluogi cyflogwyr i adeiladu gweithlu sydd â sgiliau sy’n barod ar gyfer y dyfodol.

Ers mis Ebrill 2018, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi defnyddio’r ardoll brentisiaethau i wella sgiliau staff presennol yn ogystal â chyflogi nifer o brentisiaid newydd drwy swyddi gwag mewn meysydd megis gwasanaethau ieuenctid, iechyd a gofal cymdeithasol, gweinyddu busnes, cynnal a chadw priffyrdd a TGCh.

Debbie Ayriss yw’r Rheolwr Dysgu a Datblygu. Dywedodd: “Rwy'n falch iawn o'r cyfraniad y mae ein prentisiaid wedi'i wneud dros y 12 mis diwethaf. Mae eu hymrwymiad i wella eu sgiliau a'u gwybodaeth yn ystod y cyfnod digynsail hwn yn gyflawniad gwych yn ystod blwyddyn sydd wedi bod yn un anodd iawn i bawb. Maent yn chwarae rhan annatod yng ngallu'r cyngor i barhau i ddarparu gwasanaeth sy'n atgyfnerthu'r rôl gefnogol allweddol y maent yn ei chyflawni ar draws y cyngor bob dydd.”

Mae rhai o lwyddiannau prentisiaethau'r cyngor yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys Gareth John, a sicrhaodd swydd Gweithiwr Ieuenctid ar ôl ymuno â'r awdurdod yn 2018 fel prentis. Dywedodd Gareth: "Byddwn i'n annog unrhyw un i wneud prentisiaeth, mae'n brofiad gwych. Mae gweithio fel gweithiwr ieuenctid yn ystod COVID-19 wedi bod yn anodd ond rydym wedi bod yn cefnogi pobl ifanc drwy alwadau lles ac ymweliadau a chael pobl ifanc i ymwneud â'n gwasanaeth drwy ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol, gan roi’r gefnogaeth a'r anogaeth sydd eu hangen arnynt i ddod trwy'r cyfnod anodd hwn. Ar ôl mynd trwy'r brentisiaeth a sicrhau swydd lawn amser o fewn y gwasanaeth ieuenctid, gwnaeth i mi sylweddoli pa mor lwcus oeddwn i gael y cyfle i fod yn brentis.”

Ymunodd Elli Rees â'r cyngor yn 2018 a dechreuodd yn ei rôl fel Cynorthwyydd Gofal dan Brentisiaeth ychydig fisoedd cyn y pandemig. Dywedodd Elli: "Rwy'n Gynorthwyydd Gofal dan Brentisiaeth yn Hafan Deg. Roeddwn yn ddigon ffodus o fod wedi cwblhau llawer o hyfforddiant cyn y pandemig, ac rwy'n falch o fod wedi parhau â'm cymhwyster prentisiaeth ar-lein gan ddatblygu yn fy rôl o ddydd i ddydd. Wrth gwrs, mae amgylchedd y cartref gofal preswyl wedi newid llawer dros y 12 mis diwethaf, ac rwyf wedi cael cefnogaeth dda gan gydweithwyr ac wedi gallu helpu gyda'r defnydd o dechnoleg, gan helpu preswylwyr i gadw mewn cysylltiad â’u perthnasau.”

Y Cynghorydd Ray Quant MBE yw Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion sydd â chyfrifoldeb am Bobl a Threfniadaeth. Dywedodd: “Mae pandemig Covid-19 wedi cyflwyno nifer o heriau i Geredigion. Mae wedi taro llawer o gyflogwyr yn galed ac mae hefyd wedi bod yn heriol dros ben i lawer o'n pobl ifanc. Mae Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yn rhoi cyfle i ni ddathlu llwyddiannau prentisiaid yng Nghyngor Sir Ceredigion a ledled y sir.”

Mae prentisiaethau ar gael ar amrywiaeth o bynciau a lefelau, gan amrywio o lefel dau (cyfwerth â TGAU) i lefel saith (cymwysterau lefel meistr), ac maent yn cynnig llwybr i yrfa i bobl o bob oed a chefndir.

I gael gwybod mwy am y prentisiaethau yn y cyngor, naill ai dilynwch @CeredigionJobs ar https://www.facebook.com/ceredigionjobs neu ewch i’n gwefan gyrfaoedd https://careers.ceredigion.gov.uk/cy/. I gael gwybod mwy am brentisiaethau cenedlaethol, ewch i https://gyrfacymru.llyw.cymru/prentisiaethau.

10/02/2021