Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymuno yn y safiad yn erbyn hiliaeth drwy ymrwymo i Adduned Dim Hiliaeth Cymru a drefnwyd gan Race Council Cymru.

Ellen ap Gwynn yw Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion ac Aelod Cabinet dros Bolisi, Perfformiad a Phartneriaethau. Dywedodd: “Ni fyddwn yn goddef hiliaeth yng Ngheredigion. Rydym ni am adeiladu ar gryfder cymunedau yng Ngheredigion fel mannau croesawgar a chyfeillgar, ac rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â hiliaeth pan fydd yn digwydd.”

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ymrwymo i hyrwyddo dim goddefgarwch tuag at hiliaeth, sy’n golygu fel a ganlyn:

  • Byddwn yn sefyll yma’r yn erbyn hiliaeth ac yn hyrwyddo cymdeithas mwy cynhwysol a chyfartal i bawb.
  • Ni fyddwn yn goddef unrhyw ragfarn, gwahaniaethu, aflonyddwch, erledigaeth, cam-drin na thrais ar sail hil yn erbyn unrhyw unigolyn.
  • Byddwn yn sefyll mewn undod, yn dod at ein gilydd, ac yn dweud na wrth hiliaeth yn ei holl ffurfiau.
  • Byddwn yn hyrwyddo cysylltiadau hil da rhwng pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol.
  • Byddwn yn hyrwyddo cyfleoedd cyfartal a theg i bobl o gefndiroedd ethnig amrywiol.
  • Byddwn yn diddymu unrhyw arferion anghyfreithlon mewn perthynas ag aflonyddwch, cam-drin, erledigaeth a gwahaniaethu ar sail hil.

Mae rhagor o fanylion i’w gweld ar y dudalen ganlynol: https://zeroracismwales.co.uk/?lang=cy

01/01/001