Yn ystod cyfarfod o'r Cyngor a gynhaliwyd yn rhithiol ddydd Iau, 21 Hydref 2021, cymeradwyodd Cynghorwyr Ceredigion y Strategaeth Gydol Oes a Lles ar gyfer 2021-2027 a’r cynllun gweithredu ar gyfer Ceredigion.

Mae'r strategaeth yn nodi'r weledigaeth a'r dulliau cysylltiedig o drawsnewid sut y gellir cefnogi iechyd, lles a diogelwch pobl yng Ngheredigion.

Y nod yw nodi'r hyn sy'n peri pryder i bobl yn gynnar ac anelu at atal uwchgyfeirio, lle bynnag y bo modd, drwy ymateb amserol a chymesur.

Mae'r strategaeth yn darparu model i ddelio ag achosion sylfaenol pryderon, ac mae'n cynnwys amcanion allweddol a meysydd angen penodol. Mae'r strategaeth a'r cynllun gweithredu yn datblygu'r gwaith cychwynnol a wnaed i ailstrwythuro gwasanaethau yn 2019 a gafodd ei ohirio ychydig yn 2020 oherwydd y pandemig.

Fodd bynnag, mae’r gwaith o drawsnewid gwasanaethau wedi datblygu’n dda. Mae gofal cymdeithasol a dysgu gydol oes wedi cael eu hintegreiddio’n dri gwasanaeth, sef Porth Cymorth Cynnar, Porth Gofal, a Phorth Cynnal. Mae’r gwasanaethau hyn, ynghyd â Chyswllt Cwsmeriaid, yn ffurfio’r pedwar prif faes o fewn y Rhaglen Gydol Oes a Lles.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Porth Cynnal – Gwasanaethau Gydol Oes Arbenigol: “Diben y Strategaeth a’r Cynllun Gweithredu yw amlinellu’r hyn sy’n ofynnol dros y tair blynedd nesaf a thu hwnt i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol y problemau y mae pobl fregus yn ein cymunedau yn eu profi ac yna arddangos sut yr ydym yn bwriadu mynd i’r afael â nhw. Rydym yn credu ei bod yn hanfodol i weithio’n agos gyda’n partneriaid lleol yn yr holl grwpiau a sefydliadau amrywiol ledled Ceredigion er mwyn helpu i ail-gydbwyso’r gofal a’r cymorth sydd ar gael a darparu gwasanaethau cynaliadwy yn y sir. Gall achosion sylfaenol yr anawsterau gynnwys salwch meddwl a chorfforol, camddefnyddio sylweddau, pryderon ariannol, cam-drin domestig, sefyllfa wael o ran tai, dementia, a mwy. Mae teuluoedd, gofalwyr a rhwydweithiau cymorth yn rhan hanfodol o’r darlun llesiant lleol. Mae’r model newydd hwn yn cydnabod hynny’n llawn ac mae wedi’i gynllunio i sicrhau bod pobl yn derbyn y lefel a’r math cywir o gymorth ar yr adeg gywir er mwyn atal, lleihau neu ohirio’r angen am gymorth parhaus, a sicrhau bod pobl mor annibynnol ag y gallant fod er mwyn parhau i aros yn eu cymunedau a’u cartrefi eu hunain, lle bynnag y bo modd.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Porth Gofal, Ymyrraeth Gynnar, Canolfannau Lles a Diwylliant: “Mae'n gam gwych ymlaen i weld y Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu Gydol Oes a Lles yn cael eu gweithredu. Ein gweledigaeth yw sicrhau bod pob plentyn, person ifanc ac oedolyn yng Ngheredigion yn gallu cyrraedd eu potensial llawn. Rydym am sicrhau mynediad teg i bawb at wasanaethau rhagorol – rhai cyffredin a rhai wedi’u targedu - sy'n cefnogi iechyd a lles pob dinesydd. Mae'n cynnwys datblygiad allweddol Canolfannau Lles ar draws y Sir a fydd yn integreiddio â'n gwasanaethau hamdden yn ogystal â darparu darpariaeth symudol neu dros dro mewn trefi a phentrefi cyfagos. Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i gynnig ystod o gymorth ac ymyrraeth er mwyn gwella iechyd a lles ein holl gymunedau. Mae hyn yn cynnwys datblygu sgiliau a gwytnwch a fydd yn para oes ac yn galluogi unigolion i ymdopi'n dda â'r heriau a'r pwysau y gallant eu hwynebu."

Bydd y Strategaeth Gydol Oes a Lles yn sicrhau bod gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cael eu cyflawni ac yn cefnogi gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

21/10/2021