Mae Cyngor Sir Ceredigion yn anelu at ailagor ei gyfleusterau yng Nghanolfan Hamdden Aberteifi, Pwll Nofio Llanbedr Pont Steffan a Chanolfan Hamdden Plascrug yn yr hydref.

Fel Cyngor, rydym yn cydnabod ein bod wedi wynebu anawsterau o ran cau'r cyfleusterau hamdden a'r pyllau nofio ar draws y sir, ac wedi wynebu materion heriol annisgwyl ym Mhyllau Nofio Plascrug a Llanbedr Pont Steffan. Gall preswylwyr fod yn dawel yn dawel eu meddwl ein bod yn gweithio hyd eithaf ein gallu i unioni'r rhain cyn gynted â phosibl er mwyn darparu ein hystod lawn o gyfleusterau i'r cyhoedd unwaith eto.

Mae Unedau Trin Aer Newydd wedi'u gosod ar Bwll Nofio Llanbedr Pont Steffan a Phlascrug a fydd yn sicrhau y bydd y ddau bwll yn gallu gweithredu'n ddiogel. Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud yng Nghanolfan Hamdden Plascrug, yn benodol yn y Cyrtiau Sboncen lle maent yn cael eu hail-blastro a bydd llawr neuadd chwaraeon newydd yn cael ei osod.

Bydd y gwaith datgomisiynu hefyd yn dechrau ar Ganolfan Hamdden Aberteifi, pan fydd y cyfleuster wedi'i ddychwelyd yn swyddogol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar ôl iddo gael ei ddefnyddio fel Canolfan Brechu Torfol.

Mae'r gwaith a nodwyd yn hanfodol er mwyn sicrhau y gall y cyfleusterau ailagor yn ddiogel i gwsmeriaid a staff fel ei gilydd. Mae'r buddsoddiad gan y Cyngor i sicrhau y gall y cyfleusterau ailagor yn dangos y pwysigrwydd a roddwn ar les corfforol ein trigolion. Credwn hefyd y bydd y gwaith yn cyfrannu at well profiad i gwsmeriaid wrth ymweld â'n cyfleusterau yn y dyfodol.

Rydym yn gwerthfawrogi amynedd a dealltwriaeth pawb yn ystod y cyfnod anodd hwn a byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed ym mhob cyfleuster drwy dudalennau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor a Ceredigion Actif.

 

03/08/2021