Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion yn awyddus iawn bod cynifer o bobl â phosibl yn cael cyfle i ddweud eu dweud ar lesiant yng Ngheredigion.
Maent wedi bod yn cynnal arolwg a fydd yn dod i ben am hanner nos ar 8 Hydref.
Nod yr arolwg yw cael gwybod mwy am lesiant pobl leol a chymunedau lleol, nawr ac ar gyfer y dyfodol.
Grŵp amlasiantaethol yw’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus sy’n cynnwys uwch gynrychiolwyr o’r holl brif sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau i bobl Ceredigion.
I gymryd rhan yn yr arolwg rhanbarthol ar lesiant, ewch i’r dudalen ymgynghoriadau ar ein wefan.
Gallwch hefyd fynd i wefan newydd Dweud eich Dweud Ceredigion a chymryd rhan mewn gwaith ymgysylltu ar-lein.
Bydd y wybodaeth a roddir, ynghyd â thystiolaeth arall, yn cael ei defnyddio i lunio Asesiad o Lesiant Lleol Ceredigion. Yna bydd yr Asesiad hwn yn cael ei ddefnyddio i lunio Cynllun Llesiant Lleol nesaf Ceredigion ar gyfer 2023-28, a fydd yn nodi ein hamcanion i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Ceredigion.
28/09/2021