Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb o 9-16 Hydref eleni.

Mae Troseddau Casineb yn drosedd neu'n ddigwyddiad sydd wedi'i gyflawni yn erbyn rhywun oherwydd ei hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd neu hunaniaeth drawsryweddol.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio gyda sefydliadau fel Heddlu Dyfed-Powys a Chymorth i Ddioddefwyr i atal troseddau casineb yn rhagweithiol drwy ymyriadau lleol a chenedlaethol sydd wedi'u targedu.

Yn ystod yr Wythnos, mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn gweithio gyda thîm INTACT yn Heddlu Dyfed-Powys i ymgymryd â phrosiectau cymunedol gyda phobl ifanc yn Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan, Aberaeron ac Aberteifi. Trefnwyd gweithgareddau amrywiol gyda rhai Ôl-16 yn ystod yr wythnos i godi ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb.

Mae'r Adroddiad a'r Ganolfan Gymorth i Ddioddefwyr Cymorth Dioddefwyr Cymru wedi gweld cynnydd amlwg yn y galw am ei wasanaethau cymorth troseddau casineb, hyd at 70%, yn ystod y pandemig. Cafodd y cynnydd hwn ei yrru'n bennaf o ganlyniad i achosion hiliol a homoffobig.

Kay Howells yw Cydlynydd Cydlyniant Cymunedol Canolbarth a De-orllewin Cymru. Dywedodd: "Mae troseddau a digwyddiadau casineb yn aml yn mynd heb eu cofnodi, gan adael troseddwyr yn rhydd i gyflawni troseddau pellach. Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod wedi dioddef trosedd casineb, gwnewch yn siŵr ei fod yn cael ei adrodd. Mae angen i ni ddeall y broblem er mwyn i’r penderfyniadau cywir gael eu gwneud i’ch atal chi neu aelod o’ch teulu neu’ch ffrindiau chi rhag dod yn ddioddefwr.”

Dywedodd Ellen Ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: "Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb yn gyfle i ni dynnu sylw at faterion troseddau casineb drwy atgoffa pobl o beth yw troseddau casineb ac annog y rhai sy'n dioddef trosedd casineb i ddod ymlaen ac adrodd ar y mater fel y gellir ymchwilio iddo. Bydd dioddefwyr troseddau casineb yng Ngheredigion yn cael eu cefnogi drwy wasanaethau ac adnoddau cymorth lleol."

I roi gwybod am drosedd casineb gallwch ffonio'r heddlu'n uniongyrchol drwy ddeialu 999 mewn argyfwng, neu 101 am ddigwyddiad difrys.

Ffoniwch 0300 30 31 982 (24/7 am ddim) i gysylltu â Chymorth i Ddioddefwyr yn uniongyrchol. Mae galwadau'n cael eu trin yn gyfrinachol ac mae gennych yr opsiwn i aros yn ddienw. Gallwch hefyd adrodd ar-lein ar www.reporthate.victimsupport.org.uk 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/strategaethau-cynllunio-a-pholisiau/cydraddoldeb-ac-amrywiaeth/trosedd-casineb/

11/10/2021