Mae cyfle wedi codi i ymestyn cynllun ‘Ceredigion Cynnes’ y Cyngor sy’n darparu gwres canolog am y tro cyntaf ar gyfer ardaloedd gwledig gan gynnwys cysylltiadau â’r prif gyflenwad nwy, ynghyd â systemau gwres canolog llawn, ar gyfer aelwydydd cymwys sy'n byw yng Ngheredigion.

Mae'r cynllun yn cwmpasu'r sir gyfan. Yn ogystal â'r opsiynau gwresogi a oedd ar gael yn flaenorol (Pympiau Gwres Ffynhonnell Aer a systemau nwy LPG), mae systemau gwres canolog nwy'r prif gyflenwad bellach wedi'u cynnwys. Os oes nwy ar eich stryd, yna efallai y bydd help ar gael i'ch cysylltu â’r prif gyflenwad nwy heb unrhyw gost i chi. Mae'r cysylltiad yn cymryd tua 10 i 12 wythnos. Gan fod nwy'n cael ei ddiddymu’n raddol gan Lywodraeth Cymru, efallai mai hwn fydd y cyfle olaf i'r cynllun gael ei gynnig yng Ngheredigion. Er ein bod yn cefnogi'r ymgyrch i symud oddi wrth danwydd ffosil, mae nwy yn dal i fod yn ffordd gymharol rad ac effeithlon o wresogi eich eiddo. Os yw eich eiddo wedi'i gysylltu ond nad oes ganddo system gwres canolog nwy, gallech fod yn gymwys i gael system gwres canolog lawn am ddim.

Mae cyllid ar gael i berchen-feddianwyr a thenantiaid eiddo rhent preifat sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am gysylltiadau â’r prif gyflenwad nwy yw 3 Rhagfyr 2021. Mae nifer y cysylltiadau a ariennir yn gyfyngedig felly caiff ceisiadau eu prosesu ar sail y cyntaf i'r felin.

Mesurau ynni-effeithlon

Gan weithio mewn partneriaeth â City Energy, cwmni o Gymru, sicrhaodd Gyngor Sir Ceredigion fanteision sylweddol i 137 o drigolion agored i niwed yn yr ardal drwy osod mesurau ynni-effeithlon yn eu cartrefi y llynedd.  

Mae llwyddiant y cynllun wedi'i gydnabod yng Ngwobrau Rhagoriaeth ym maes Caffael Cyhoeddus GO Cymru a’r Gwobrau Effeithlonrwydd Ynni Rhanbarthol, a dyfarnwyd y wobr 'Cyflawniad Contract Gorau' a ‘Prosiect ar Raddfa Fawr’ i’r ddau sefydliad. O ganlyniad i lwyddiant y cam cyntaf, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi sicrhau cyllid ychwanegol i ddarparu 180 o systemau gwres canolog am y tro cyntaf a mesurau inswleiddio cysylltiedig yng Ngheredigion.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Dai: “Rydym yn croesawu’r newyddion y bydd y cynllun gwres canolog am y tro cyntaf ar gyfer ardaloedd gwledig yn cael ei ymestyn i gynnwys cysylltiadau â’r prif gyflenwad a’r cyflenwad nwy yng Ngheredigion. Os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth neu’n ansicr ynghylch eich cymhwysedd, cysylltwch â’r tîm i fanteisio ar y cynllun arbennig hwn.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet ar gyfer Porth Cynnal: “Gyda chostau tanwydd yn cynyddu, mae’r cynllun hwn wedi cael ei anelu at gartrefi sy’n ei chael yn anodd i wresogi eu tai yn iawn. Mae cadw’n gynnes yn hanfodol ar gyfer iechyd a lles holl aelodau’r teulu ac ni ddylai neb yng Ngheredigion orfod bod yn oer o ganlyniad i dlodi.”

Ariennir y cynllun gan y Gronfa Cartrefi Cynnes; cronfa genedlaethol a sefydlwyd gan y Grid Cenedlaethol ac a weinyddir gan y Cwmni Buddiannau Cymunedol, Affordable Warmth Solutions. Sicrhawyd y cyllid gan adran Dai Cyngor Sir Ceredigion trwy broses ymgeisio gystadleuol.

Os oes gennych ddiddordeb yn y system gwres canolog newydd neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y cynllun a'r meini prawf cymhwysedd, ffoniwch yr Adran Dai ar 01545 572 185 neu anfonwch e-bost at Housing@ceredigion.gov.uk

17/11/2021