Mae 'Ceredigidol', adran newydd sy'n ymroddedig i wasanaethau digidol, bellach ar gael ar wefan Cyngor Sir Ceredigion.

Nod Ceredigidol yw darparu gwybodaeth glir ynglŷn â sut y gellir defnyddio technoleg ddigidol i gefnogi twf busnesau, yr economi, ansawdd bywyd trigolion, twristiaeth a'r amgylchedd.

Mae'n cynnwys ystod o waith a phrosiectau y mae'r Cyngor yn ymwneud â nhw ar hyn o bryd i wella'r ddarpariaeth o dechnoleg ddigidol ar draws y sir.

Mae gwybodaeth am y gwasanaethau canlynol wedi'i chynnwys yn yr adran newydd:

  • Band eang
  • Symudol
  • Sgiliau Digidol
  • Wi-Fi Cyhoeddus

Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y rhwydwaith LoRaWAN (Rhwydwaith Ardal Eang o Bell) y mae’r Cyngor wedi bod yn ei greu ar draws y sir a fydd yn cyflymu gweithgarwch arloesol y ‘Rhyngrwyd Pethau’ yn y rhanbarth; rhwydwaith agored a ddefnyddir i wella effeithlonrwydd busnesau.

Y Cynghorydd Clive Davies yw Eiriolwr Digidol Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd: "Mae cael mynediad at gysylltedd symudol a band eang cyflym a dibynadwy wedi dod yn hanfodol i bawb. Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi gweld mwy o bobl yn gweithio gartref nag erioed o'r blaen, a'r unig ffordd y mae llawer ohonom wedi cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu yw drwy gyswllt ar-lein. Gall fod yn ddryslyd a chymryd llawer o amser pan fydd gennych broblemau cysylltedd ac nid ydych yn gwybod pa gymorth sydd ar gael.

"Rwy'n hapus iawn i gyhoeddi bod yr adran newydd hon ar gael. Gall yr adnodd hwn helpu trigolion a busnesau i gael gwybodaeth ynglŷn â sut i wella cysylltedd, cyllid sydd ar gael i wneud hyn, gwella sgiliau digidol, yn ogystal â darparu manylion am brosiectau sefydlog a di-wifr sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd gyda Cheredigion.

Gyda rhwydwaith Rhyngrwyd Pethau LoRaWAN ledled y sir, y mwyaf yng Nghymru, dyma'r amser i ganolbwyntio ar arloesi data. Nid rhywbeth yn nwylo’r sefydliadau mawr, neu’r "Dinasoedd Clyfar" yn unig yw hyn mwyach, mae sylfeini cadarn rhwydwaith clyfar gwledig ar gael i ni nawr, a all alluogi i ni wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ddata yma yng Ngheredigion, gan alluogi arbedion o ran effeithlonrwydd, a chynnig cyfleoedd a chynnyrch newydd wrth i ni adfer ar ôl COVID-19".

Felly, os nad ydych chi neu'ch busnes yn cyrraedd ei botensial digidol am ryw reswm neu'i gilydd, ewch draw i Ceredigidol i weld pa opsiynau sydd ar gael i chi nawr."

Gellir gweld yr adran Ceredigidol newydd yma: http://www.ceredigion.gov.uk/busnes/ceredigidol/

16/11/2021