Mae Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi eu bod yn gohirio Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion am flwyddyn.

Cymerwyd y penderfyniad gan Fwrdd Rheoli’r sefydliad yn dilyn nifer o drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cefnogi penderfyniad yr Eisteddfod Genedlaethol i ohirio Eisteddfod Ceredigion am flwyddyn arall tan 2022.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros yr Iaith Gymraeg, “Rydym yn cefnogi’r Eisteddfod ar eu penderfyniad anodd i ohirio’r Eisteddfod am flwyddyn arall. Mae’n chwith iawn peidio bod yn rhan o fwrlwm y paratoi a mynychu’r Eisteddfod ar wythnos cyntaf mis Awst eleni eto. Er hyn, mae’n rhaid sicrhau iechyd a diogelwch pawb. Dim ar chwarae bach mae trefnu Eisteddfod nac ychwaith paratoi i gystadlu a mynychu. Gyda’r holl gynllunio sydd angen ei wneud, dyw hi ddim yn ymarferol bosib i’w cynnal. Edrychwn ymlaen at groesawu pawb i Geredigion pan mae hi’n ddiogel i wneud hynny.”

Diolchwn i’r Eisteddfod a’r holl wirfoddolwyr am eu gwaith hyd yn hyn. Edrychwn ymlaen yn eiddgar i groesawu pawb i Geredigion yn 2022.

Mae manylion ymarferol y penderfyniad i ohirio’r Eisteddfod eleni wedi’u cyhoeddi ar wefan yr Eisteddfod.

26/01/2021