Darperir gwasanaethau casglu gwastraff rheolaidd a dibynadwy yng nghanol tref Aberystwyth. Yn anffodus, mae rhai materion lleol, tymhorol sy'n parhau i godi. Mae’r ateb felly'n syml – rhaid i ni gau'r ffenestr wastraff!

Y ffenestr wastraff yw'r amser rhwng pryd y cyflwynir gwastraff i'w gasglu a phryd y caiff ei gasglu mewn gwirionedd. Po hiraf y mae’r ffenestr ar agor, y mwyaf o faterion a phroblemau sy'n codi, gan gynnwys y gwastraff yn cael ei ddifrodi gan wylanod, anifeiliaid eraill, yn ogystal â'r tywydd. Mae hyn yn achosi'r problemau sy’n codi mewn rhai lleoliadau yng nghanol y dref, yn bennaf ar y diwrnodau casglu gwastraff ac o'u cwmpas.

Mae'r Cyngor Sir wedi bod yn rhagweithiol iawn yn Aberystwyth dros y blynyddoedd diwethaf wrth gyflwyno ymyriadau a newidiadau i drefniadau casglu gwastraff gyda'r bwriad o fynd i'r afael â materion hirsefydlog neu eu gwella. Mae'r rhain yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd ac maent yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Casgliadau gwastraff cynharach ychwanegol yng nghanol y dref i gasglu gwastraff sydd wedi'i gyflwyno'n gynnar.
  • Darparu biniau olwynion ar Rodfa’r Gogledd a sachau cryf ar wahanol strydoedd i ddal gwastraff rhwng yr amser y caiff ei gyflwyno a’i gasglu.
  • Darparu cadis a leinwyr cadi am ddim ar gyfer gwastraff bwyd a bocsys ar gyfer gwydr.
  • Darparu gwybodaeth yn lleol.
  • Y timau Casglu Gwastraff a’r timau Glanhau Strydoedd yn gweithio’n agosach â’i gilydd.
  • Monitro agosach
  • Cyswllt parhaus â thrigolion a landlordiaid

Yn rhan o Caru Ceredigion a Caru Aber, anogir yr holl breswylwyr i wneud eu rhan i fod yn rhan o'r ateb yn hytrach nag achos y broblem. Mae hyn yn golygu gweithio gyda ni i sicrhau:

  • bod strydoedd Aber yn cael eu cadw’n lân ac yn ddeniadol bob amser
  • yr ymdrinnir â gwastraff Aber yn y ffordd fwyaf effeithlon bosibl o safbwynt cost a’r amgylchedd
  • bod Aber yn parhau i fod yn lle gwych i fyw ac ymweld ag ef
  • bod Aber yn cynnal y proffil a’r ddelwedd gadarnhaol y mae’n ei haeddu.

Rydym yn galw ar yr holl breswylwyr i’n helpu i gau’r ffenestr wastraff drwy gyflwyno'r Gwastraff Cywir yn y Ffordd Gywir ac ar y Diwrnod Cywir:

  • Gwastraff Cywir: gwneud defnydd llawn a phriodol o'r gwasanaethau a ddarperir ar gyfer ailgylchu a gwastraff bwyd sy'n cael eu casglu bob wythnos
  • Y Ffordd Gywir: cyflwyno’r gwastraff mewn cynwysyddion addas gan gynnwys y cadis bwyd a’r bocsys gwydr a ddarperir gan y Cyngor. Mae ystod o finiau, gan amrywio o finiau olwynion a biniau traddodiadol, ar gael o allfeydd lleol neu ar-lein er mwyn storio a chyflwyno gwastraff ar gyfer y ffenestr wastraff.
  • Y Diwrnod Cywir: dim ond erbyn 08:00 ar y diwrnod casglu y dylid cyflwyno gwastraff i’w gasglu.

Atgoffir busnesau bod ganddynt gyfrifoldeb cyfreithiol i sefydlu trefniadau gwastraff masnach ar gyfer yr holl wastraff y mae eu busnes yn ei gynhyrchu 

O ystyried maint a natur y dref mae Aberystwyth yn dref lân sy'n cyfrannu at ei hapêl gyffredinol fel lle gwych i fyw ac ymweld ag ef. Pe na bai hyn yn wir, ni fyddai gan gynifer o bobl leol ac ymwelwyr gymaint o feddwl ohoni. 

I gael mwy o wybodaeth am wasanaethau casglu gwastraff Cyngor Sir Ceredigion, gan gynnwys adnodd chwilio Cod Post, ewch i www.ceredigion.gov.uk.

02/07/2021