Os ydych yn Ofalwr Ifanc sy’n byw yn Sir Gâr, Ceredigion neu Sir Benfro, hoffem glywed gennych!

Mae Arolwg y Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc, sy’n fyw nawr ac yn dod i ben ar 16 Gorffennaf 2021, yn gyfle i chi ddweud wrthym pa gymorth a help yr ydych chi’n ei dderbyn ar hyn o bryd yn ogystal â beth arall yr hoffech chi neu beth arall sydd ei angen arnoch. Rydym am ddefnyddio'r wybodaeth hon i sicrhau bod gennym Wasanaeth Gofalwyr Ifanc sy'n gweithio i chi ac sy’n rhoi'r help sydd ei angen arnoch.

Nid yw llawer o Ofalwyr Ifanc yn gwybod am y cymorth sydd ar gael iddynt. Yng Ngheredigion mae dros 80 o Ofalwyr Ifanc yn hysbys i Gweithredu dros Blant a'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Ifanc, er bod yr union nifer yn debygol o fod yn llawer uwch.

Bydd canfyddiadau'r arolwg yn cael eu rhannu ar draws y tair sir, a byddant yn helpu i lunio gwasanaethau cymorth a hysbysu'r rhanbarth ynglŷn â chyflwyno'r Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc.

Dyma’r dolen i’r holiadur: http://bit.ly/youngcarerssurvey. Er mwyn ei lenwi yn Gymraeg, newidiwch y dewis iaith yn y gornel dde uchaf.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r arolwg, cysylltwch ag Uned Gofalwyr Cyngor Sir Ceredigion: carersunit@ceredigion.gov.uk / 01970 633564

16/06/2021